Buddsoddiad o £500,000 i stadiwm pêl-droed Bangor
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith £500,000 yn dechrau ym mis Chwefror i wella adnoddau stadiwm "Book People" Nantporth, cartref clwb Pêl-Droed Dinas Bangor
Bydd y rhain yn cynnwys cae 3G artiffisial er mwyn hyfforddi chwaraewyr, tra bydd y stadiwm ei hun yn cael ei ehangu i gynnwys teras i'r cefogwyr.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud bydd datblygiadau Nantporth yn ei droi i fod yn ganolbwynt i bêl-droed ac yn rhoi'r cyfle i bobl chwarae'r gêm ar gae "ffantastig."
Meddai Llywydd y Gymdeithas, Trefor Lloyd Hughes: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr yn nyfodol pêl droed yma yng Nghymru ac rydym wrth ein bodd bod Dinas Bangor, un o'n clybiau mwyaf yn rhan o'r datblygiad.
"Rydym yn gobeithio mai'r cyhoeddiad yma fydd y cyntaf o nifer fydd yn dangos ei hymrwymiad i wella cyfleusterau trwy'r wlad."
Adnoddau
Yn ogystal â'r £350,000 sydd yn cael ei fuddsoddi gan y Gymdeithas, mae Prifysgol Bangor yn rhoi £150,000.
Meddai Richard Burnett, cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden y Brifysgol: "Mae hwn yn gam bositif wrth i ni gryfhau'r berthynas rhwng Clwb Dinas Bangor a'r Brifysgol.
"Mi fydd y cae 3G newydd yn codi'r pwysau oddi ar ein hadnoddau ac mi fydd yn adnodd arddechog nid yn unig i dimau'r Brifysgol ond i'r gymuned chwaraeon i gyd yng ngogledd Cymru."
Dywedodd cadeirydd y clwb, Dilwyn Jones bydd y gwaith yn dechrau "fwy na thebyg" yn fis Chwefror.
Symudodd Bangor o'u cartref gwreiddiol ar Ffordd Farrar yng nghanol y ddinas ym mis Ionawr 2012.
Yn ogystal â bod yn gartref i'r clwb mae'r stadiwm newydd wedi cynnal gêm derfynol Cwpan Cymru â gêmau rhyngwladol i dimau dan 21 a dan 16 Cymru.