Cyfnod ymgynghori cwmni ym Medwas yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Ffatri Sapa ym Medwas
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi bod yn yr ardal ers mwy na 40 mlynedd

Mae cyfnod ymgynghori cwmni alwminiwm oherwydd y posibilrwydd o gau ar fin dod i ben.

Dechreuodd cwmni Sapa ym Medwas ger Caerffili ymgynghori â 132 o weithwyr ym mis Tachwedd.

Roedd y cwmni wedi beio "newidiadau mawr yn y farchnad" ac wedi dweud bod angen "bod yn gystadleuol".

Ynghynt y mis hwn dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart y byddai trafodaethau'n parhau wrth geisio achub y safle.

Mewn llythyr i Aelodau Cynulliad dywedodd fod rheolwyr wedi awgrymu y gallai trafodaethau barhau wedi'r cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod.

'Cynnig'

"Mae'r cwmni wedi dweud y byddan nhw'n ystyried cymorth posibl oddi wrth Lywodraeth Cymru ac wedi addo rhoi gwybod am ddatblygiadau mawr," meddai.

Roedd y cwmni wedi addo anelu at greu cyfleoedd swyddi pe bai'r ffatri'n cau.

Dywedodd Alan Couturier, Rheolwr Gyfarwyddwr Sapa yn y Deyrnas Gyfun: "Rydym yn sylweddoli effaith y cyhoeddiad ar ein cydweithwyr ym Medwas.

"Ein gobaith yw y bydd atebion eraill heblaw cau ac fe fyddwn ni'n gwneud ein gorau glas yn anelu at hynny."

Roedd yr undeb wedi dweud bod y cyhoeddiad yn "ergyd fawr" i weithwyr y ffatri agorodd yn 1971.