Protest yn erbyn cau Plas Madoc i ddigwydd ar Ionawr 11
- Cyhoeddwyd

Mi fydd protest yn erbyn cau canolfannau hamdden yn Wrecsam yn digwydd ar dydd Sadwrn, Ionawr 11
Mi fydd yna brotest yn erbyn cau canolfannau hamdden yn Wrecsam yn digwydd o flaen un o'r rhai dan fygythiad, Plas Madoc, ar ddydd Sadwrn, Ionawr 11.
Ar ddydd Mawrth, Ionawr 14eg, mi fydd pwyllgor gwaith Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn cyfarfod i benderfynu ar gynnig i gau Plas Madoc a Waterworld.
Mae'r ddau ymhlith 11 o gyfleusterau hamdden a chwaraeon y sir sydd dan fygythiad o gau er mwyn i'r Cyngor wneud arbedion ariannol o £13 miliwn yn y flwyddyn nesaf.
Mae'r cyngor, fel nifer o rai eraill yng Nghymru, yn wynebu toriadau i'w cyllideb.
Yn ôl ymgyrchwyr yn erbyn cau'r canolfannau, mae'r arbedion a ddisgwylir o £886,000 yn cywasgu i lawr i £97,000 wrth agor canolfan gyda phwll nofio newydd.
Daw'r ffigyrau gan ymgynghorwyr y Cyngor, "The Sports Consultancy" mewn adroddiad iddynt.
Meddai Alison Roberts ar ran yr ymgyrchwyr: "Dydi'r arbedion o £886,000 dim yn cymryd i ystyriaeth unrhyw waith dymchwel a chlirio'r safle.
"Mae'r cyfleusterau yma yn cael eu defnyddio gan nifer fawr o bobl ac mae'r gymuned eisiau eu cadw, mae'n hanfodol bod y Cyngor yn gwrando cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Protest swnllyd
Ychwanegodd ymgyrchydd arall, Darrell Wright: "Rydym yn trefnu protest heddychlon ond swnllyd tu allan i Blas Madoc ar ddydd Sadwrn, Ionawr 11eg am hanner dydd er mwyn dangos pa mor bwysig mae'r ganolfan i ni.
"Mae hyn i gyd wedi digwydd mor sydyn wrth fod allan yn hel llofnodion ar ein deiseb yn, 'da ni wedi cyfarfod pobl oedd heb unrhyw syniad ei fod dan fygythiad o gau.
"Felly mae'n rhaid i ni weithredu yn gyflym a gwneud yn siŵr bod pawb yn rhoi pwysau ar y 10 cynghorydd ar y pwyllgor gwaith i gysidro'r effaith ar ein cymunedau cyn mynd a chau'r cyfleusterau yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2013