Asesu'r difrod yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Ffynhonnell y llun, Mark Lewis
Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Ffynhonnell y llun, Athena Pictures

Mae'r llanw uchel a'r gwyntoedd cryfion wedi achosi difrod sylweddol ar hyd y prom yn Aberystwyth, gydag un perchennog gwesty'n dweud bod yr olygfa 'fel tase bom wedi mynd off'.

Dywedodd Cyngor Ceredigion ar wefan Twitter bod difrod i'r rheiliau, potiau planhigion, celfi stryd ac arwynebedd y prom yn golygu bod y prom yn debygol o fod ynghau tan wythnos nesaf 'er mwyn diogelu'r cyhoedd'.

Dywedodd Richard Griffiths, perchennog gwesty'r Richmond, wrth Taro'r Post ar BBC Radio Cymru:

"Mae 'na mess aruthrol yma. Mae'r prom wedi codi, a'r cerrig a'r brics a'r pafin wedi cael eu taflu reit o gwmpas y prom.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Griffiths, perchennog Gwesty Richmond: "Diolch byth, mae'r heddlu wedi rhwystro pobl rhag dod i'r prom i weld y difrod, i sicrhau bod y bobl yn medru gweithio i lanhau, i ddiogelu'r adeiladau sydd yma..."

"Mae'n cymdogion ar hyd y prom wedi cael eu floodio mas. Mae 'na lanast ofnadw'... Mae mwy nac un wedi padlo o gwmpas y basement... Mae 'na ffenestri wedi chwalu, mae fe'n edrych fel tase bom wedi mynd off a dweud y gwir..."

Wrth gyfeirio at y difrod i'w westy yntau, dywedodd Mr Griffiths:

"Daeth y môr trwy'r drws ffrynt, ac i lawr i'r 'stafell waelod... Mae'r trydanwyr wedi bod fewn yn barod i sicrhau bod y trydan wedi cael ei ddiffodd, a bod y lle'n ddiogel ac mae'r saer yma... yn rhoi boardings i fyny ar y drws ffrynt, ond yn bersonol, ni'n ffodus iawn - mae lot o'n cymdogion ni mewn sefyllfa lot gwaeth."

Difrodwyd prom Aberystwyth gan storm arall ym mis Tachwedd. Bryd hynny dywedwyd nad oedd Aberystwyth wedi gweld storm o'r fath ers degawdau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol