Mewn lluniau: Llifogydd
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r tonnau anferth daro Bae Abertawe, fe dynnodd Simon Forster y llun yma

Mae pedwar rhybudd difrifol am lifogydd mewn grym gan gynnwys un yn y Bermo yng Ngwynedd ble tynnwyd y llun yma gan Dave Harding

Tonnau mawrion yn Ynys y Barri

Fe gafodd nifer eu rhybuddio o'r hyn oedd i ddod, gan roi cyfle iddyn nhw geisio paratoi

Dywedodd staff tafarn y Last Inn yn Bermo, Gwynedd, bod 15 modfedd o ddŵr yn yr adeilad

Daeth y llanw uchel â thonnau anarferol i Gricieth yng Ngwynedd

Steven Griffiths dynnodd y llun yma wrth weld y llifogydd yn gorchuddio rhan o Langennech ger Llanelli

Pobl yn gwylio'r tonnau yng Nghricieth

Fe welodd Aberystwyth donnau anferth yn achosi difrod i'r promenâd. Mark Lewis dynnodd y llun yma

Gadawodd y tonnau lanast ar eu hôl ar bromenâd Aberystwyth fel y mae'r llun yma gan Mark Lewis yn dangos

Mae'r dinistr yn amlwg yn Amroth yn Sir Benfro yn dilyn y llawn uchel fore Gwener