Mellt a chenllysg yn arwain at ddamweiniau ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae storm o fellt a tharannau a chawod o genllysg wedi achosi problemau ar Ynys Môn, gan arwain at dair damwain.
Yn ogystal mae'n debyg bod mellten wedi achosi tân yn Llanfachraeth wedi iddi daro tŷ.
Roedd y ddamwain gyntaf am 9.55am yn achos car Citroen yn mynd tua'r gorllewin ar y A55 ger pentref Bryngwran.
Am 10.12 roedd yr ail ddamwain ar y gyffordd rhwng yr A55 a'r A4080 am Rosneigr wrth i gar Fiat daro rhwystr.
Yr un amser ar y B511 rhwng Llanerchymedd a Llangefni aeth car Peugeot gwyn i mewn i glawdd.
Roedd storm o genllysg yn digwydd ar y pryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Does neb wedi cael ei anafu yn y damweiniau yma ac mae Traffig Cymru wedi gyrru lori graeanu allan ar yr A55 oherwydd y cenllysg."
O dan reolaeth
Mae diffoddwyr wedi bod yn delio gyda tân yn Llanfachraeth ar arfordir gogledd-orllewinol yr ynys.
Daeth y tân o dan reolaeth am 12.30pm.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod yn ymchwilio ac mae peirianwyr Scottish Power wedi cyrraedd hefyd.