Plaid Cymru a'r SNP yn trafod ffurfio 'cynghrair flaengar'

John Swinney a Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Swinney a Rhun ap Iorwerth yn gobeithio datblygu "cynghrair flaengar" rhwng Cymru a'r Alban

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cynnal trafodaethau gyda Phrif Weinidog yr Alban i ddatblygu "cynghrair flaengar" rhwng y ddwy wlad.

Mae arweinydd yr SNP, John Swinney, wedi addo gweithio gyda Phlaid Cymru i ddangos i bobl Cymru a'r Alban fod "dewis arall cadarnhaol i anobaith a dirywiad San Steffan".

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod ganddyn nhw "gyfle gwirioneddol i ddangos grym gwleidyddiaeth flaengar".

Roedd y cyfarfod hefyd yn canolbwyntio ar ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi plant, gyda Phlaid Cymru eisoes wedi addo y byddai'n treialu fersiwn o Daliad Plant yr Alban os mai nhw fydd yn ffurfio llywodraeth yng Nghymru y flwyddyn nesaf.

Yn siarad cyn y cyfarfod dydd Iau, dywedodd John Swinney: "Nid yw'r status quo yn San Steffan yn gweithio".

"Mae biliau'n codi, mae pobl yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd, ac ateb Llywodraeth Lafur y DU yw rhuthro ymhellach ac ymhellach i'r dde i gadw i fyny â Nigel Farage," meddai.

Dywedodd Mr Swinney fod yr SNP a Phlaid Cymru yn rhannu gweledigaeth o "gymdeithas lle rydym yn cefnogi pobl gyda chostau byw yn hytrach na'u gadael i ddihoeni tra bod y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach".

Ychwanegodd, gyda'r ddwy blaid yn cydweithio, y gallan nhw "ddangos bod dyfodol gwell yn bosibl - a daw hynny gyda dechrau newydd annibyniaeth".

'Trafod ein gweledigaeth gyffredin'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn edrych ymlaen at gyfarfod Mr Swinney i "drafod ein gweledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol ein cenhedloedd".

"Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn awyddus i fabwysiadu arferion gorau o bob cwr o'r byd o ran mabwysiadu polisïau i wella bywydau beunyddiol pobl, a ble gwell i ddechrau na gydag un o'n cynghreiriaid agosaf yn yr Alban," meddai.

"Mae Taliad Plant yr Alban yn bolisi radical a chyffrous yr ydym wedi ymrwymo i'w gyflwyno fel cynllun peilot Cymreig pe bai Plaid Cymru yn ffurfio'r llywodraeth nesaf ym mis Mai.

"Diolch i fesurau fel hyn, yr Alban yw'r unig ran o'r DU lle mae cyfraddau tlodi plant i fod i ostwng yn y blynyddoedd i ddod.

"Rwyf am i hynny fod yn wir yng Nghymru hefyd.

"Mae gennym gyfle gwirioneddol i ddangos grym gwleidyddiaeth flaengar trwy gydweithrediad agos a pharhaus rhwng yr Alban a Chymru.

"Gyda Llywodraeth SNP yn yr Alban a Llywodraeth Plaid Cymru yng Nghymru fis Mai nesaf, bydd gan ein cenhedloedd y lleisiau cryfaf posibl na all San Steffan eu hanwybyddu mwyach."

Dywedodd Reform UK fod "Plaid Cymru yn copïo gwaith cartref yr SNP, er bod mwy o farwolaethau yn ymwneud â chyffuriau yno nag unrhyw le arall yn Ewrop, treth incwm uwch na gweddill y DU, ac obsesiwn â diddymu'r Undeb, fyddai'n cael effaith negyddol ar ein GIG".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig