Clwb golff yn nwylo'r gweinyddwyr?
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor sir yn dweud eu bod yn ymchwilio i adroddiadau fod clwb golff gafodd ei sefydlu ganddyn nhw yn Nyffryn Aman yn y 90au wedi ei roi yn nwylo'r derbynwyr.
Fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin gyfrannu tuag at sefydlu'r cwrs £1 miliwn ar hen safle glo brig yn ardal y Garnant, ger Rhydaman.
Fe gafodd y cwrs ei drosglwyddo i gwmni Clay's o Wrecsam yn 2011 ar gytundeb 25 mlynedd oedd yn cynnwys cymhorthdal.
Y bwriad oedd dod â'r cymhorthdal hwnnw i ben ar ôl cyfnod o chwe blynedd.
Mae'r cwrs ar safle 120 erw gyda golygfeydd o'r Mynydd Du.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerfyrddin: "Rydym yn cwrdd â chwmni Clay's yn eithaf rheolaidd, ac mae cyfarfod wedi ei drefnu ar gyfer wythnos nesa'. Yn y cyfamser, rydym ni'n ceisio cysylltu â'r cwmni er mwyn cael y newyddion diweddara'.
"Nid ydym wedi cael unrhyw wybodaeth gan Clay's ynglyn â'r clwb yn cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, ac felly nid oes modd gwneud sylw pellach ar y mater."
Mae'r BBC wedi gofyn i gwmni Clay's am sylw.