Beirniadaeth o hysbyseb sy'n 'bychanu'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro yn dweud ei bod am newid cynnwys hysbyseb swydd gweithwyr cymdeithasol sydd yn dweud nad ydy medru siarad "Cymraeg yn bwysig."
Roedd y cyngor wedi dweud mai Saesneg oedd "iaith fewnol y cyngor."
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ysgrifennu atyn nhw ac yn gofyn iddyn nhw ail hysbysebu, gan ddweud bod Cymraeg yn hanfodol.
Cyfiawnhau
Dywedodd Gwyndaf Tomos o Gymdeithas yr Iaith Sir Benfro: "Mae'n warthus bod y cyngor wedi dweud y fath beth.
"Nid iaith ar gyfer rhannau o'r gogledd yw'r Gymraeg - ond iaith ar gyfer yr holl sir.
"Mae'n rhoi'r argraff fod y cyngor yn ystyried y Gymraeg yn ddim mwy na mater o gwrteisi sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ambell i frawddeg.
"Rydyn ni'n galw ar y cyngor sir i dynnu'r hysbyseb yma yn ôl yn syth ac i ail hysbysebu'r swydd gan ofyn bod y Gymraeg yn hanfodol."
Mae Mr Tomos eisiau esboniad gan arweinydd y cyngor, y Cynghorydd James Adams, ynglŷn â sut y cafodd yr hysbyseb ei chyhoeddi yn y lle cyntaf.
Camargraff
Yn ôl y mudiad Dyfodol i'r Iaith mae'r hysbyseb yn creu camargraff o sefyllfa'r iaith.
Yn Sir Benfro roedd 19% o bobl yn y cyfrifiad diwethaf yn dweud eu bod yn siaradwyr Cymraeg.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith: "Mae'r datganiad yn yr hysbyseb yn rhoi camargraff o'r sefyllfa ieithyddol yn sir Benfro ac felly yn bychanu'r defnydd o'r Gymraeg ac o angen siaradwyr Cymraeg i gael gofal cymdeithasol yn y Gymraeg.
"Rydym yn croesawu'r ffaith bod y sir yn cynnig hyfforddiant iaith am ddim i weithwyr ond byddai'n dda gweld y cyngor yn gwneud ymdrech wirioneddol i ddarparu gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu delio â siaradwyr Cymraeg yn drylwyr."
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd yr Iaith, Meri Huws, ei bod yn "ymwybodol o'r achos" ac wedi cysylltu gyda'r cyngor i "ofyn am eglurhad o'r sefyllfa."
'Ddim yn gywir'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Rydym yn cydnabod fod dweud nad yw'r Gymraeg yn flaenllaw yn ein gofal cymdeithasol ddim yn gywir, ac felly fe fyddwn yn dileu'r frawddeg honno.
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth iaith Gymraeg, ac fe fyddwn ni'n gwneud hyn unrhyw bryd y bydd gofyn i ni wneud.
"Heblaw bod swydd yn benodol angen siaradwr Cymraeg e.e. aelod o staff mewn ysgol cyfrwng Gymraeg does dim angen i unrhyw ddeiliad swyddi fod yn siaradwyr Cymraeg."
Ychwanegodd: "Yn anffodus, ac yn enwedig yn y maes hwn, byddai gofynion o'r fath yn lleihau'r dewis o ymgeiswyr y gallwn ni recriwtio ohonynt yn sylweddol."