12,000 yn llai yn ddi-waith yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Waith
Disgrifiad o’r llun,

Mae 108,000 o bobl heb waith yng Nghymru - gostyngiad o 12,000 ers ffigurau mis Rhagfyr.

Mae lefel diweithdra yng Nghymru wedi gostwng i 7.2% yn y tri mis hyd at fis Tachwedd.

Mae'n golygu bod 108,000 o bobl heb waith yng Nghymru erbyn hyn - gostyngiad o12,000 ers y ffigyrau diwethaf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Mae lefel diweithdra ar draws y DU yn parhau i ostwng ac erbyn hyn ar raddfa o 7.1%, y lefel isaf ers 2009.

Mae hynny'n gyfanswm o 2.32 miliwn o bobl yn dal i fod heb waith, gostyngiad o 167,000.

Mae nifer y bobl oedd yn hawlio budd-dal wrth chwilio am swyddi ym Mhrydain fis diwethaf wedi gostwng 24,000, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ffigyrau 'positif'

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones bod y ffigyrau yn "bositif i Gymru".

"Mae Cymru yn perfformio'n well na Phrydain yn ei gyfanrwydd, mewn ardaloedd hollbwysig fel gwaith i bobl ifanc."

Roedd y nifer o bobl ifanc heb waith yng Nghymru wedi gostwng 600 y mis hwn, gyda 5,000 yn llai yn hawlio budd-dal wrth chwilio am swydd ers y cyfnod hwn y llynedd.

"Mae'r ffigyrau'n dangos y gall Cymru wynebu 2014 gydag ysbryd optimistig a hyderus wrth i'n heconomi barhau i wella'n gynt nag unrhyw rhan arall o Brydain."

Hyder cynyddol

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS, bod eu "cynllun economaidd tymor hir yn gweithio."

"Yn sgil cymryd penderfyniadau anodd, mae Prydain yn gwella'n gryf ac yn fwy cyflym, yn arbennig o'i gymharu â'n cymdogion Ewropeaidd."

"Yng Nghymru, mae hyder cynyddol ... Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agosach gyda ni, ac yn arbennig i edrych ar y nifer o esiamplau llwyddiannus lle rydym yn hybu twf a'u gosod mewn lle yng Nghymru."

Mae Cadeirydd y Ffederasiwn Busnesau Bach, Janet Jones, hefyd yn croesawu'r ffigyrau ac yn dweud eu bod yn cyd-fynd gyda'r hyder cynyddol ymysg eu haelodau i gynyddu nifer eu gweithwyr am y tro cyntaf ers 2010.

Cyfraddau llog yn ddi-symud

Roedd Banc Lloegr wedi dweud fis Awst diwethaf y bydden nhw'n ystyried codi cyfraddau llog petai lefel diweithdra yn llai na 7%.

Mae'r cyfraddau wedi bod ar eu lefel isaf o 0.5% ers 2009.

Ers hynny, mae adferiad Prydain wedi gwella'n fwy sydyn nag yr oedd y Banc wedi'i ragweld ac mae diweithdra wedi gostwng yn gyflym.

Ond i atal unrhyw ddyfalu y byddai Banc Lloegr yn rhuthro i godi cyfraddau llog, mae'r Llywodraethwr, Mark Carney, wedi pwysleisio na fyddai diweithdra yn gostwng i 7% yn golygu cynnydd awtomatig i'r cyfraddau.

Mae rhai economegwyr yn awgrymu y bydd y banc yn edrych ar y cynnydd yng nghyflogau pobl fel modd o benderfynu ydi'r adferiad yn ddigon cryf i ymdopi â chynnydd mewn cyfraddau llog.

Mae nifer mewn gwaith wedi gweld eu safon byw yn gwaethygu, er gwaetha'r gostyngiad mewn diweithdra.

Fe gododd cyfartaledd cyflogau pobl 0.9% yn y tri mis hyd at fis Tachwedd.

Roedd y lefel chwyddiant blynyddol yn 2% ym mis Rhagfyr, sef y nod roedd Banc Lloegr wedi bod yn anelu ato, ond sydd dal ddwywaith yn fwy na graddfa'r twf mewn cyflogau.