Arolwg yn awgrymu bod angen mwy o Aelodau Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth y Gymdeithas Newid Etholiadol yng Nghymru yn dweud fod arolwg diweddar yn dangos fod angen mwy o aelodau cynulliad er mwyn sicrhau fod y corff yn gweithio'n fwy effeithiol.
Bydd canlyniadau llawn yr arolwg yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.
Ond mewn blog ar wefan y Gymdeithas, mae Steve Brooks, cyfarwyddwr y Gymdeithas yng Nghymru, yn dweud fod y system bresennol yn "gwneud cam â democratiaeth."
Mae e'n dadlau nad oes digon o aelodau meinciau cefn i graffu ar waith gweinidogion y llywodraeth a chyllid o £14 biliwn.
"Mae'n ddrwg i ddemocratiaeth o ystyried fod 14 o'r 60 aelod cynulliad yn weinidogion. Ar ben hynny, mae dau AC arall yn gyfrifol am gadw trefn ar waith aelodau'r cynulliad, y llefarydd a'r dirprwy llefarydd.
"Mae hynny'n golygu mai dim ond 44 aelod cynulliad sydd yna i wneud y gwaith craffu a phe bai chi'n diystyru tri o arweinwyr y gwrthbleidiau, mae hynny'n golygu 41 aelod cynulliad i gadw llygaid ar weinidogion a chyllid o £14 biliwn."
Gormod o bwysau?
Mae'r Gymdeithas eisoes wedi galw am gynyddu nifer yr aelodau cynulliad i 100.
Cafodd y cais hwnnw ei feirniadu gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.
Mae e o'r farn nad yw'r pwysau yn ormod, ac y dylid yn hytrach cynnal arolwg o'r modd mae'r cynulliad yn gweithio.
Dywed Mr Brooks fod 34 aelod o'r meinciau cefn wedi cyfrannu at yr arolwg.
"Mae'n amlwg fod angen newid y ffordd mae'r cynulliad yn gweithio," meddai Mr Brooks yn ei flog.
Dywedodd fod dros hanner y rhai wnaeth ymateb yn credu y dylai'r cynulliad eistedd am oriau hirach nag ar hyn o bryd.
'Angen arolwg'
Yn ôl yr arolwg, roedd tua dau o bob tri yn credu fod y corff gweithredol (y llywodraeth ) yn rhy gryf o'i gymharu â'r corff deddfwriaethol (y cynulliad).
Dywedodd Mr Brooks ei fod yn parhau i gefnogi'r ddadl dros gynyddu nifer yr aelodau i 100 ond, yn y cyfamser, roedd hefyd yn cefnogi cais Andrew RT Davies i gynnal arolwg o'r modd mae'r cynulliad yn gweithio.
"Does yna ddim adolygiad o'r dull gweithredu wedi bod ers 2002.
"Ond ers hynny rydym wedi gweld y grym rhwng y corff gweithredol a'r corff deddfu'n cael ei wahanu; ac mae pwerau deddfu cynradd wedi'u trosglwyddo. Mae'n hen bryd am adolygiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2013