Ymgyrchwyr Ysbyty Aberteifi'n cyflwyno deiseb
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb gyda dros 11,000 o lofnodion yn cael ei chyflwyno i'r Senedd yn galw am ddiogelu gwelyau yn Ysbyty Aberteifi.
Bydd y 12 o welyau sy'n cael eu defnyddio i drin cleifion yn yr ysbyty yn cael eu symud ddiwedd mis Chwefror.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi dweud y bydd gwelyau mewn llefydd eraill yn y gymuned yn lle hynny.
Ond mae ymgyrchwyr yn mynnu y dylai'r gwelyau barhau yno hyd nes y bydd ysbyty newydd wedi'i adeiladu yn y dref.
Yn sylweddol
Cyngor Tref Aberteifi a Chymdeithas Cyfeillion yr Ysbyty sydd wedi bod yn casglu enwau ar gyfer y ddeiseb.
Mae llai na 4,000 yn byw yn Aberteifi ac mae llawer o gefnogaeth ym mhentrefi'r ardal.
Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion yr Ysbyty, Eirwyn Harries, fod yr ymateb yn sylweddol.
"Mae pobl yn chwilio amdanon ni i gael rhoi eu henwau ar y ddeiseb a rydyn ni'n cael ymateb oddi wrthyn nhw yn dweud mor drist oedden nhw am yr hyn oedd Hywel Dda a'r Cynulliad yn ei wneud i Aberteifi.
"Y rheswm yw ein bod ni'n colli gwelyau yn yr ysbyty presennol a bod yr adeilad newydd ddim yn dod yn ei flaen."
Mae'r ymgyrchwyr am i welyau aros wedi diwedd mis Chwefror, ac amserlen bendant gan y bwrdd iechyd ar gyfer gwasanaethau iechyd yn Aberteifi a'r cylch.
Maen nhw hefyd yn awyddus fod adeiladu ysbyty newydd yn y dre yn dod yn ei flaen.
'Yn deall'
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles: "Gallen nhw (y gwelyau) fod mewn sir arall neu yng ngogledd Ceredigion ac mae'n anodd i bobl fynd i ymweld â theuluoedd.
Os ydyn nhw mewn ysbyty lan yn Nhregaron, mae'n anferth o daith i rywun o dde Sir Benfro."
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "deall bod gofid ac ansicrwydd am unrhyw newid" a'u bod nhw am sicrhau pobl yr ardal hyn, er na fydd y gwelyau ar gael mewn un lle, y byddai'r un nifer ar gael mewn mannau eraill yn y gymuned.
Dywedon nhw hefyd eu bod am "barhau i weithio ar fodel newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yn yr ardal, sy'n cynnwys adeilad newydd pwrpasol i Aberteifi".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd25 Rhagfyr 2013