Galw am adroddiad ar wasanaethau iechyd yn y canolbarth

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jones yn honni bod denu staff i Ysbyty Bronglais yn broblem fawr

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi galw am adroddiad ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru.

Daw penderfyniad Mark Drakeford wedi iddo gwrdd ag AC Ceredigion Elin Jones a phwyllgor o uwch glinigwyr o Geredigion a Phowys.

Fe wnaethon nhw annog y gweinidog i ystyried anghenion penodol yr ardal wledig a'r boblogaeth wasgaredig wrth gynllunio gwasanaethau iechyd y dyfodol.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Fyrddau Iechyd Hywel Dda a Phowys am ymateb.

Cadarnhaodd Mr Drakeford ei fod wedi penderfynu comisiynu darn annibynnol o waith ymchwil i strwythur gwasanaethau iechyd yn y dyfodol, mewn llythyr anfonwyd at Ms Jones ar Ragfyr 19.

'Ardal wledig'

Meddai Ms Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Rwyf wedi'm calonogi gan ymateb positif y gweinidog iechyd i'r pwyllgor o glinigwyr y gwnaeth eu cyfarfod fis diwethaf.

"Mae'r penderfyniad hwn yn cadarnhau bod y gweinidog yn derbyn yr anghenion penodol sydd gan ysbyty gwledig a'r ardal leol.

"Mae bwlch enfawr rhwng yr ysbytai ar goridorau'r M4 a'r A55 yng Nghymru, a dim ond Bronglais sydd rhyngddynt.

"Dydy'r atebion sy'n berthnasol i ardaloedd dinesig ddim wastad yn gweithio i ni.

"Rydym ni'n wynebu heriau anferth dros broblemau yn cynnwys denu staff i Ysbyty Bronglais, sicrhau y gall meddygon teulu hyfforddi yn lleol a chael eu penodi pan fo meddygon hŷn yn ymddeol, a sut mae'r GIG yng Nghymru'n rhyngweithio â gwasanaethau eraill mewn ardal wledig.

"Mae'n hanfodol bod y gwaith ymchwil hwn yn annibynnol, ac yn ymgynghori â meddygon lleol."

Daw'r datblygiad hwn wedi i Gyngor Ceredigion bleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda fis Rhagfyr eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Penderfynodd y bwrdd iechyd gau rhai gwelyau yn Ysbyty Aberteifi

Roedd hynny'n dilyn penderfyniad y bwrdd iechyd i gau rhai gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Aberteifi.

Bydd yr ysbyty'n parhau i fod ar agor i gleifion allanol, ond bydd gwelyau'n cael eu darparu gan gartrefi gofal yn y gymuned.

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu na fydd gwelyau'n cael eu colli, wrth iddyn nhw gynllunio i agor ysbyty newydd.

Fe darwyd bargen i agor ysbyty gwerth £20m yn y dref yn y dyfodol, fydd yn cynnwys meddygfa.

Ers y penderfyniad, mae mwy na 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb i rwystro penderfyniad y bwrdd iechyd.

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y Gweinidog Iechyd yn comisiynu arolwg i ymchwilio i'r problemau a dod o hyd i atebion posibl er mwyn darparu gwasanaethau hygrych, diogel, uchel eu safon a chynaliadwy i drigolion canolbarth Cymru.

"Mae disgwyl i'r gweinidog gyhoeddi rhagor o fanylion yn y Flwyddyn Newydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol