Stephen James: Llywydd newydd NFU Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Stephen James yn cadw 300 o wartheg godro yn Sir Benfro
Mae ffermwr llaeth o Sir Benfro, Stephen James, wedi cael ei benodi'n llywydd newydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru, ac fe fydd John Davies, ffermwr cig eidion a defaid o Bowys, yn is-lywydd, am y ddwy flynedd nesaf.
Mae Mr James yn ffermio mewn partneriaeth gyda'i wraig, Joyce, a'i fab, Daniel, ac maen nhw'n cadw 300 o wartheg godro ar eu fferm 500 erw.

John Davies a Stephen James, Is-lywydd a Llywydd newydd NFU Cymru
Mae Stephen yn gyn-gadeirydd NFU Cymru yn Sir Benfro ac yn lefarydd yr undeb ar y dicïau mewn gwartheg.
Yn is-lywydd iddo mae John Davies, sy'n ffermio gyda'i deulu ym Merthyr Cynog ger Aberhonddu.
Mae'n cadw 100 o wartheg sugno, 1000 o ddefaid ac yn rhedeg busnes contractio silwair a chadw llety i ymwelwyr.
Mr Davies yw cadeirydd cyllid Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, hyfforddwr tîm rygbi dan 13 Aberhonddu, ac mae'n gynghorydd cymuned.
Mae hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Bwyd a Marchnata NFU Cymru.
Wrth gael ei dderbyn yn is-lywydd, fe dalodd Mr Davies deyrnged i'w wrthwynebydd, John Owen, gan ddweud ei fod yn edrych 'mlaen i weithio gydag o yn ei rôl fel cadeirydd y Bwrdd Ardaloedd Llai Ffafriol.