Dau yn gwadu gorfodi dyn i weithio
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu ar safle Fferm Cariad, Llanbedr Gwynllŵg
Mae dau ddyn wedi gwadu gorfodi dyn arall i weithio ar fferm.
Cafodd Daniel Doran, 67 oed, a David Doran, 42 oed, eu harestio ar fferm Cariad yn Llanbedr Gwynllŵg ger Casnewydd y llynedd.
Yn Llys y Goron Caerdydd, fe wadodd y ddau gyhuddiad o orfodi dyn i weithio dros gyfnod o dair blynedd.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â'r cyfnod rhwng 6 Ebrill 2010 ac 1 Mawrth 2013.
Bydd yr achos yn cael ei glywed yn ddiweddarach eleni, ac mae'r ddau ddyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.