Galw ar brif weithredwr bwrdd iechyd i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae mab menyw wnaeth farw wedi diffyg gofal mewn ysbyty wedi galw ar brif weithredwr y Bwrdd Iechyd lleol, Paul Roberts, i ymddiswyddo.
Mi wnaeth Gareth Williams y sylwadau mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhen-y-Bont nos Iau ar ôl i fwy o gwynion gael ei gwneud yn erbyn Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Roedd tua 100 o bobl yn y cyfarfod oedd wedi'i drefnu gan yr elusen Action Against Medical Accidents (AVMA).
Mae Mr Williams wedi dweud bod angen ymchwiliad cyhoeddus yn dilyn y driniaeth y cafodd ei fam, Lilian Williams, yn Ysbyty Tywysog Cymru ac Ysbyty Castell Nedd Port Talbot. Mi fuodd hi farw yn 2012.
Cododd rhai ar eu traed yn y cyfarfod i'w gefnogi gan weiddi, 'clywch, clywch' a 'cywilydd arnoch chi'. Dywedodd nifer o bobl eraill y dylai'r prif weithredwr adael.
Gwella safon
Mae Mr Roberts wedi dweud na fydd o yn ymddiswyddo ond y byddan nhw'n gweithio'n galed i wella safon y gofal.
Yn ystod y cyfarfod, mi siaradodd perthnasau cleifion am eu profiadau yn yr ysbytai a dywedodd Prif Weithredwr AVMA y bydden nhw'n parhau i ymgyrchu i gael ymchwiliad cyhoeddus llawn.
Dywedodd Mr Roberts ei fod wedi gwrando ac y byddai'n parhau i wrando ar bryderon cleifion a pherthnasau.
Fe siaradodd yn ystod y cyfarfod a dywedodd bod yna rhai mesurau wedi eu rhoi yn eu lle yn barod er mwyn gwella diogelwch a gofal cleifion. Ychwanegodd bod cyfraddau marwolaeth wedi cwympo.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi comisiynu adolygiad annibynol i safonau gofal. Ond mae cylch gwaith yr adolygiad yna wedi cael ei feirniadu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2013