Adolygiad o ofal ysbyty 'ddim yn ddigonol'

  • Cyhoeddwyd
Lilian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Lilian Williams yn dweud nad oedd safon y gofal yn ddigonol

Mae teulu cyn glaf yn Ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell Nedd Port Talbot wedi cyhuddo'r gweinidog iechyd o fethu â chyflawni ei addewid i adolygu safonau gofal yr ysbytai yn y gorffennol.

Ym mis Hydref y llynedd, datgelodd BBC Cymru y byddai safonau nyrsio yn y ddau ysbyty yn cael eu hadolygu wedi marwolaeth dynes 82 oed o Borthcawl, wedi i'w theulu ddweud ei bod hi wedi cael ei hesgeuluso.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r adolygiad yn ystyried y cyfnod pan fu farw Lilian Williams.

Ond, mae BBC Cymru wedi gweld e-bost gan arweinydd yr adolygiad, yn dweud mai ond ystyried safon y gofal ar hyn o bryd yw'r nod.

Adolygiad

Cafodd Mrs Lilian Williams driniaeth yn Ysbyty'r Dywysoges, Pen-y-Bont ar Ogwr a Chastell Nedd Port Talbot bedair gwaith rhwng Awst 2010 a Thachwedd 2012, pan fu farw.

Mae ei theulu yn dweud nad oedd hi wedi cael gofal digonol tra yn yr ysbyty.

Ym mis Hydref, dywedodd Mark Drakeford y byddai adolygiad i safonau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y llynedd.

Dywedodd wrth y Senedd: "Rydw i'n rhoi sicrwydd na fydd unrhyw rwystr i'r Athro Andrews edrych ar y safonau gofal yn yr ysbytai yna ar yr adeg pan roedd Mrs Williams yn glaf."

Ond mae BBC Cymru wedi gweld e-bost gan yr Athro June Andrews, sy'n arwain yr adolygiad, sy'n dweud: "Rydw i'n ymwybodol o brofiad Mr Williams [mab Lilian Williams], a gallaf ddeall pam fod y gweinidog iechyd wedi cysylltu'r achos gyda'r penderfyniad bod angen adolygiad i'r ffordd y mae ysbytai yn perfformio ar hyn o bryd.

"Ond, ar hyn o bryd, nid yw'r adolygiad yn edrych ar ddigwyddiadau yn y gorffennol, ond yn hytrach yn archwilio'r sefyllfa bresennol.

"Rydw i wedi cael cais i edrych ar y sefyllfa bresennol. Byddaf yn gwneud hynny heb ystyried yr hyn ddigwyddodd yn y gorffennol."

'Angen edrych yn ôl'

Ond mae mab Lilian Williams, Gareth, yn dweud bod angen i adolygiad edrych yn ôl er mwyn sicrhau nad yw camgymeriadau yn cael eu hail-adrodd.

"Os nad yw'r adroddiad yn edrych yn ôl, ni fydd yn gallu deall y rhesymau pam y mae pethau wedi mynd o'i le yn yr ysbytai yna dros nifer o flynyddoedd."

Mae elusen hefyd wedi galw am gynnal ymchwiliad cyffredinol i ddiogelwch cleifion yng Nghymru.

Mae Gweithredu Yn Erbyn Damweiniau Meddygol wedi anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford i ofyn iddo gomisiynu adolygiad newydd "ar frys".

Yn ogystal, mae'r elusen yn dadlau bod angen i'r adolygiad i ofal yn ysbytai Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot wrando ar safbwyntiau cleifion sydd wedi derbyn gofal gwael yno.

'Dim rhwystr'

Yn ymateb, dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru: "Rydw i wedi bod yn ofalus iawn wrth ateb cwestiynau am gyfrifoldeb adolygiad yr Athro Andrews i ddweud nad oes unrhyw beth yn y termau sy'n rhwystro'r Athro Andrews rhag edrych ar safonau gofal yn y gorffennol, pan mae hi'n teimlo bod hynny'n angenrheidiol.

"Ond rydw i hefyd wedi bod yn glir nad oes unrhyw bwynt mewn sefydlu adolygiad annibynnol ac yna dweud wrth yr arweinydd yn union sut i weithredu hynny.

"Mae'r Athro Andrews yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Abertawe Bro Morgannwg heddiw.

"Lle mae hi'n gweld bod angen edrych ar bethau sydd wedi digwydd yn y gorffennol i ddeall y sefyllfa heddiw, yna mae rhyddid llwyr iddi wneud y penderfyniad yna, nid fi."

Dywed y llywodraeth bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn dwy ran.

"Mae'r cyntaf o'r rhain yn adolygiad manwl i'r sefyllfa bresennol, ac mae hwn wedi dechrau," meddai llefarydd.

"Unwaith y bydd y rhan yma wedi ei gwblhau, bydd y tîm yn penderfynu ar ba faterion y maen nhw angen ymchwilio ymhellach iddyn nhw, fydd yn hanesyddol."

Dywedodd y llefarydd mai'r tîm eu hunain fydd yn penderfynu pa mor bell yn ôl i edrych, a bod y Prif Swyddog Nyrsio wedi cynnig siarad gyda theulu Lilian Williams i egluro'r broses.