Ann Clwyd ddim yn sefyll eto
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae hi wedi cynrychioli'r sedd dros y blaid Lafur ers 30 mlynedd.
Yn 76 oed fe lwyddodd i gipio'r sedd mewn is-etholiad yn 1984.
Cyn hynny roedd hi'n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Orllewin a Chanolbarth Cymru.
Fe wnaeth hi ddatgan ei phenderfyniad i'r blaid Lafur yn lleol yng Nghwm Cynon ddydd Gwener, ar ôl yn gyntaf rhoi gwybod i arweinydd y blaid Ed Miliband.
Dywedodd fod gwneud y swydd am amser mor hir wedi bod yn anrhydedd.
"Rwyf yn parhau a digon o egni ar ôl i ymladd am well gwasanaeth iechyd i bobl Cymru ac i sicrhau fod y system iechyd yn gwella drwy'r Deyrnas Unedig."
Brwydro
Fe gafodd Ms Clwyd ei phenodi yn ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i arwain ymchwiliad i'r modd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn ymdrin â chwynion.
Daeth ei phenodiad ar ôl iddi ddatgelu mewn cyfweliad gyda'r BBC yn Rhagfyr 2012 y gofal gwael i'w diweddar wr ei dderbyn tra yn yr ysbyty.
"Rwy'n dal i dderbyn llythyrau a negeseuon e-bost, felly byddaf yn parhau i frwydro ar ran pobl.
"Rwy'n gobeithio fod fy niweddar ŵr Owen Roberts yn gallu fy nghlywed - rwy'n gwybod y byddai'n fy nghefnogi."
Yn ystod ei gyrfa cafodd ei phenodi yn llysgennad arbennig i Irac gan y cyn brif weinidog Tony Blair.
"Byddaf yn parhau i leisio barn ar faterion cartref a materion tramor, yn enwedig hawliau dynol," meddai.