Galwad i blannu coed i leihau llifogydd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Coed Cadw yn cyflwyno deiseb i Lywodraeth Cymru heddiw yn galw arnyn nhw i gefnogi plannu dros 10 miliwn o goed i leihau llifogydd.
Mae nhw am weld y coed hyn yn cael eu plannu ar 1000 hectar o dir, dros bum mlynedd, yn y mannau lle bydden nhw'n gallu helpu orau i amsugno dŵr glaw ac arafu llif y dŵr lawr y mynyddoedd.
Mae 2,700 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb ar lein ac mewn gwahanol sioeau a digwyddiadau y llynedd.
Mae Coed Cadw hefyd yn cyhoeddi adroddiad, 'Dal y Dyfroedd yn Ôl', sy'n dangos sut y gall plannu coed fod yn ddull cost-effeithiol o reoli dŵr a lleihau perygl llifogydd, ochr yn ochr ag amddiffynfeydd llifogydd mwy traddodiadol lle bo hynny'n briodol.
Lleihau costau amddiffynfeydd llifogydd
Yn ôl yr adroddiad, mae 357,000 o dai yng Nghymru - un o bob chwech tŷ yn y wlad - mewn perygl.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwario, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, £44m y flwyddyn ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ac mae disgwyl y bydd hyn yn codi i £135m erbyn 2035.
Ond, mae Coed Cadw yn honni y gallai plannu coed a choetiroedd brodorol yn y mannau iawn, ar ffurf lleiniau cysgodol yn uchel mewn dalgylchoedd afonydd er enghraifft, fod yn fwy economaidd.
Ar gyfartaledd, fe all dir sydd â choed dail llydan amsugno dŵr ffo 67 gwaith yn fwy effeithiol na glaswelltir sydd wedi ei wella ac yn cael ei bori.
Os oes yna leiniau cysgodol o goed wedi eu lleoli yn y mannau cywir ar dir sydd wedi'i wella, mae'n bosibl lleihau llif ucha'r dŵr rhyw 40%.
Mae Coed Cadw, fel rhan o'r ymgyrch, yn cynnig £20,000 tuag at brosiectau ymarferol sy'n helpu i ddangos effeithiolrwydd defnyddio coed i leihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr .
Dywed Jerry Langford, cyfarwyddwr Cymru Coed Cadw, fod cyfle i Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru fanteisio ar ddefnyddio coetiroedd.
Dywedodd: "Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei botensial, rhaid iddo fo fanteisio ar y cyfle enfawr i ddefnyddio seilwaith gwyrdd, yn enwedig coetiroedd a choed, i greu tirluniau a threfluniau sy'n wytnach a fydd yn gallu ymdopi â thywydd eithafol yn well.
"Fe fyddai'n ddechrau da i wneud yn union yr hyn mae'n deiseb ni'n ei ddweud, sef i osod targed i gefnogi plannu 10,000,000 o goed mewn mannau gorau i leihau perygl llifogydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014