Cyhuddo gyrrwr lori o yrru'n ddiofal ar Bont Britannia
- Cyhoeddwyd

Roedd y lon sy'n arwain at y bont dipyn yn ddistawach na'r arfer am 8:00am fore Iau
Mae heddlu wedi cyhuddo gyrrwr o yrru'n ddiofal, wedi i lori droi ar ei hochr ar Bont Britannia brynhawn dydd Mercher.
Roedd rhybudd mewn grym yn gwahardd cerbydau uchel rhag teithio ar y bont, oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Bu'r bont ynghau tan ganol bore Iau yn dilyn y digwyddiad, gan achosi tagfeydd yn ardal Bangor a Phorthaethwy.
Bydd Igor Kolarik, sy'n 51 oed ac yn dod o Slofacia, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon fore Gwener.