Aros llai am driniaeth canser

  • Cyhoeddwyd
Triniaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o'r cleifion gyda'r achosion mwyaf brys o ganser yn dal i orfod aros yn hirac na dau fis

Mae cleifion canser yn aros llai am driniaeth yng Nghymru, yn ôl ystadegau newydd, ond mae'r Gwasnaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn dal i fethu cyrraedd targedau'r llywodraeth ar gyfer yr achosion mwyaf brys.

Yn ôl ffigyrau ar gyfer mis Medi tan Rhagfyr 2013, roedd 92.1% o gleifion canser oedd ag achosion brys wedi dechrau triniaeth o fewn 62 niwrnod o gael diagnosis - oedd yn uwch na'r 86.6% yn y chwarter blaenorol.

Ond mae hyn yn llai na'r targed o 95% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dim ond un o'r chwech bwrdd iechyd lleol sy'n cynnig triniaeth o'r fath - sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - gyrhaeddodd y targed, ond mae hynny'n welliant o'r chwarter diwethaf pan nad oedd yr un o'r byrddau wedi cyrraedd y marc.

Cafodd y targed ar gyfer achosion llai brys ei gyrraedd, gyda 98.7% o gleifion yn dechrau derbyn triniaeth o fewn 31 diwrnod.

Roedd y ffigwr hwn yn uwch o'r 98.3% yn y chwarter diwethaf.

Targed Llywodraeth Cymru yw bod triniaeth yn cael ei gynnig i 98% o gleifion canser oedd newydd gael diagnosis - oedd ddim yn achosion brys - o fewn 31 diwrnod.

Dim ond pedwar bwrdd iechyd a lwyddodd i wneud hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ffigyrau'r chwarter diwethaf yn dangos gwelliant sefydlog o ganol 2013 tan ddiwedd y flwyddyn.

"Mae hyn yn galonogol, er bod y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn parhau i dderbyn cyngor gan uwch oncolegyddion yng Nghymru bod y gwahaniaeth rhwng yr achosion 31 a 62 diwrnod ddim yn un sy'n adlewyrchu safonau uchaf o ofal cleifion heddiw.

"Mae wedi gofyn am gyngor clinigol i ddatblygu cynigion newydd fyddai'n fwy addas."

Mae Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi galw am welliant pellach:

"Roedd y gweinidog iechyd wedi nodi y byddai'r targed aros o 62 diwrnod wedi'i gyrraedd erbyn Hydref, ond dydy'r targed pwysig hwn heb ei gyrraedd o hyd.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 'na welliant yn sicr wedi bod yn nifer y cleifion sy'n cael eu gweld o fewn dau fis, ond mae'n rhaid i'r gwelliant hwn barhau.

"Does dim lle i hunanfodlonrwydd. Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi methu'r targed amser aros o 62 diwrnod bob mis ers 2008. Mae hyn yn gofnod o fethiant.

"Mae darganfod bod ganddoch chi ganser yn brofiad arswydus. Mae'n hynod o siomedig bod pobl yn gorfod aros dros ddau fis cyn dechrau eu triniaeth."