Galw am achub canolfan y Muni ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae deiseb ag arni 4,000 o enwau wedi cael ei chyflwyno i Gyngor Rhondda Cynon Taf oherwydd cynlluniau i gau canolfan gelfyddydau'r Muni ym Mhontypridd.
Ar hyn o bryd mae'r cyngor, sy'n ceisio gwneud arbedion o £70 miliwn dros y pedair blynedd nesa', yn ystyried rhoi'r gorau i ariannu'r ganolfan.
Ddydd Llun mae eu hymgynghoriad yn dod i ben ac mae'r cyngor yn dweud y byddan nhw'n ystyried yr holl ymatebion cyn i'r cabinet gwrdd i drafod y cynllun fis nesa'.
Mae'r ganolfan mewn adeilad oedd yn arfer bod yn gapel.
Y perfformiwr Martin Geraint, wedi ei wisgo mewn gwisg pantomeim, a gyflwynodd y ddeiseb ddydd Llun.
'Safle canolog'
Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru eglurodd ei fod yn perfformio yn y ganolfan bob blwyddyn.
"Mae'r pantomeim dwi'n rhan ohono wedi perfformio yn y Muni bob blwyddyn ers rhyw saith mlynedd ac ma' dros 2,000 o blant yn dod," meddai.
"Ry'n ni yno am ryw bedwar diwrnod - un o'r llefydd ry'n ni ynddo hira' yng Nghymru.
"Mae'r galw yna oherwydd mae Pontypridd yn ganolog i nifer fawr o lefydd - nid dim ond yn Rhondda Cynon Taf, ond ar gyfer Caerdydd - dyw'r dre' ddim yn bell o Gaerdydd, o Ferthyr, o Gaerffili.
"Ma' pobl yn fodlon dod i Bontypridd a dyna un o'r dadleuon - os wnan nhw gau, beth mae'r cyngor yn feddwl ydy yr aiff pobl i'r Parc & Dâr yn Nhreorci neu'r Coliseum yn Aberdâr.
"Ond y cwestiwn mawr yw a wnan nhw? Dwi ddim yn gwybod a wnan nhw.
"Fydde fe lot yn haws i ddod i Bontypridd, i'r ganolfan a'r canolbwynt."
'Hyblyg'
Roedd y ganolfan, meddai, yn cynnig gofod "hyblyg" iawn ar gyfer perfformio.
"Roedd hi'n cael ei defnyddio fel eglwys hyd yn oed yn ystod y 10 mlynedd diwetha'," meddai.
"Mae 'na gigs roc yn digwydd yma, mae 'na berfformiadau theatr yn amlwg, mae 'na ddawnsfeydd a chiniawau.
"Maen nhw'n gallu cael gwared â'r seddi a defnyddio'r llawr ar gyfer hynny.
"Dyw'r llwyfan, i fod yn gwbl onest, ddim y gorau yng Nghymru - mae'n eitha' cul, gyda dau bostyn anferth.
"Ond mae'r gynulleidfa mor agos atoch chi, mae'n lle hyfryd i berfformio - chi'n gweld y gynulleidfa i fyw eu llygaid."
'250 o bobl ifanc'
Dywedodd Emma O'Brien, rhiant o'r ardal ac yn rhan o'r ymgyrch, y byddai'n golled i'r gymuned gyfan gan fod nifer o ddosbarthiadau'n cael eu cynnal yno.
"Mae 'na dros 250 o bobl ifanc yn defnyddio'r Muni trwy glybiau dawns neu glybiau drama. Ma' pobl yn mynd yno i ymarferion côr, mae 'na gyfarfodydd yn ystod y dydd, pobl yn mynd i'r caffi.
"Mae nifer o doriadau wedi cael eu gwneud yn barod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Ni jyst yn teimlo hyn, ma' cau'r Miwni wir yn rhoi'r gyllell yng nghalon y gymuned - ma' pob dim yn mynd."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae ail gymal proses ymgynghori'r cyngor yn dod i ben ddydd Llun (Chwefror 24) wrth i'r cyngor geisio cau'r bwlch cyllid o £70m dros y pedair blynedd nesa' o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU.
"Bydd pob ymateb yn cael ei ystyried gan y cabinet a bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ym mis Mawrth, pan fydd y cabinet yn adolygu'r cynnig gwreiddiol, ynghyd â chasgliadau'r ymgynghoriad, cyn gwneud penderfyniad terfynol.
"Os, yn y cyfarfod hwn, y bydd y cabinet yn cytuno gyda chynnig gwreiddiol y Gwasanaeth Celfyddydau, bydd y cyngor yn dal i gynnal dwy theatr eiconig - y Coliseum yn Aberdâr a'r Parc & Dâr yn Nhreorci, a bydd yn dal i ddarparu gwasanaeth sy'n cymharu'n ffafriol â'r hyn sy'n cael ei gynnig gan awdurdodau lleol eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014