Cabinet RhCT yn cwrdd i drafod cynlluniau i arbed arian

  • Cyhoeddwyd
Cyngor RCT
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn gorfod arbed £70 miliwn mewn pedair blynedd

Fe fydd Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf yn trafod cynlluniau ddydd Mercher i geisio arbed £70 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.

Mae 6,500 o drigolion wedi cymryd rhan mewn ymgynghoriad ynglŷn â chynigion am doriadau i nifer o wasanaethau.

Ymhlith yr argymhellion dan sylw mae cau llyfrgelloedd a chanolfannau dydd i'r henoed.

Argymhelliad arall yw codi oedran y mae plant yn dechrau mynychu ysgolion. Byddai cynyddu'r oedran o dair i bedair yn arbed £4.5 miliwn y flwyddyn.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys cau 14 o 26 o lyfrgelloedd y sir, gan arbed £800,000 y flwyddyn.

Canolfannau hamdden

Y llyfrgelloedd sydd wedi cael eu clustnodi i gau yw Treherbert, Ton Pentre, Penygraig, Ynyshir, Maerdy, Cwmbach, Penrhiwceibr, Ynysybwl, Cilfynydd, Tonyrefail, Nantgarw, Beddau a Phont-Y-Clun.

Byddai newidiadau i wasanaethau ieuenctid yn arbed £2.2 miliwn, tra byddai rhoi'r gorau i wasanaeth pryd ar glud ar y penwythnosau yn arbed £300,0000.

Yn ôl swyddogion y cyngor byddai cau 10 allan o 19 o ganolfannau dydd yn arbed £600,000 y flwyddyn.

Fe fydd y cabinet yn trafod rhan un o'r cynllun arbedion yn y bore, ac yna yn cyhoeddi argymhellion ar gyfer ail ran y cynllun arbedion am hanner dydd dydd Mercher.

Mae'n debyg fod y cynigion yn rhan dau yn cynnwys cau Amgueddfa Cwm Cynon a chanolfan celfyddydau Muni ym Mhontypridd.

Hefyd mae swyddogion yn argymell cau chwe phwll nofio padlo, sydd ar hyn o bryd ar agor am chwe wythnos bob haf.

Goleuadau

Byddai'r awdurdod yn cau pwll nofio Bronwydd, pwll nofio Hawthorn - oni bai fod ysgol uwchradd leol yn fodlon cymryd cyfrifoldeb am y safle- a chanolfan hamdden Llanilltud Faerdref.

Byddai yna gwtogi ar oriau agor canolfannau hamdden Rhondda Fach, Abercynon, Hawthorn ym Mhontypridd a Thonyrefail.

Byddai yna dorri nôl ar y defnyddio o oleuadau stryd, tra byddai'r arian sy'n cael ei roi i gynnal gwasanaethau bysiau yn cael ei hanneru o £841,00 i £441,000 y flwyddyn.

Un o'r argymhellion eraill yw codi taliadau uwch am wasanaethau cymdeithasol sy'n cael eu cynnig i oedolion.

Pan gafodd rhan un o'r cynllun arbedion ei gyhoeddi cyn y Nadolig dywedodd dirprwy arweinydd y Cyngor Paul Cannon mai Lywodraeth San Steffan oedd ar fai am y toriadau.

Dywedodd bryd hynny fod y cyngor yn wynebu dewisiadau caled.

"Byddwn yn pwysleisio mai ail ran y cynigion fydd yn cael sylw - a chynigion ydy nhw ar hyn o bryd. Pe bai'r cabinet yn eu cymeradwyo bydd y cyngor wedyn yn ymgynghori gyda'r cyhoedd."

Mae 22 o awdurdodau lleol unai wedi cyhoeddi neu yn y broses o ddod i gytundeb ar wneud toriadau i'w gwasanaethau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol