Mathemateg: barn negyddol?
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bob 10 o oedolion yng Nghymru'n cyfaddef lladd ar fathemateg o flaen plant, yn ôl arolwg sydd wedi ei gomisiynu gan lywodraeth Cymru.
Er bod bron i 90% yn honni bod eu sgiliau mathemateg nhw'n "dda" neu'n "weddol", roedd 29% yn dweud eu bod nhw wedi siarad yn negyddol am y pwnc o flaen plant.
Fe gafodd 1,000 o oedolion yng Nghymru eu holi'n rhan o'r arolwg wrth i lywodraeth Cymru lansio ymgyrch 'Mae eich geiriau chi'n cyfri'.
Y gobaith yw annog oedolion i hybu mathemateg o flaen plant, ac osgoi sgyrsiau fyddai'n gallu effeithio'u diddordeb yn y pwnc.
Daw'r ymgyrch yn dilyn pryder bod delwedd mathemateg yn dioddef ymysg y to ifanc, a hynny'n rhannol oherwydd agwedd negyddol rhieni tuag at y pwnc yn y cartref.
Ymysg y datganiadau gafwyd yn yr arolwg, roedd: "doedd mathemateg ddim yn un o fy rhinweddau" a "Paid gofyn i mi wneud mathemateg, dydw i'n dda i ddim."
O'r 14% oedd yn dweud bod eu sgiliau mathemateg yn "wael" neu'n "wael iawn", roedd 92% yn hapus i gyfaddef hynny a chwarter y rheiny'n dweud "nad oedd ots bod eich sgiliau mathemateg yn wael."
Defnyddio maths yn rheolaidd
Ond roedd y ffigyrau'n dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn bositif am eu gallu mathemategol, ac yn dweud eu bod nhw'n defnyddio'r sgiliau'n rheolaidd o ddydd i ddydd.
Roedd 88% yn dweud eu bod nhw'n defnyddio mathemateg yn wythnosol i wirio datganiadau gan y banc, 79% yn ceisio trefnu eu harian yn wythnosol ac 80% yn cyfri' cost eu siopa bwyd bob wythnos.
Gobaith yr ymgyrch yw gwneud i bobl sylwi bod mathemateg yn bwnc hanfodol ym mywyd dyddiol pawb.
Roedd saith ymhob 10 yn dweud eu bod nhw'n defnyddio mathemateg yn ddyddiol, a dim ond 1% ddywedodd nad oedden nhw'n defnyddio mathemateg o gwbl.
'Agwedd bositif'
Meddai'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis: "Mae'n rhaid cael agwedd bositif gartref i annog pobl ifanc i gymryd diddordeb mewn maths yn gynnar iawn.
"Mae'n deg dweud fod maths yn dioddef o broblem delwedd ac, fel y mae pôl heddiw'n dangos, mae yna dal waith i'w wneud i newid agwedd mewn rhai mannau nad yw maths yn bwysig mewn gwirionedd ac nad oes llawer o ots beth ydyn ni'n ddweud wrth blant yn ei gylch.
"Rydyn ni deall gwerth sgiliau rhifedd cryf, ar gyfer bywyd a gwaith. Petai pawb yn rhoi hwb i'r ymgyrch ac yn lledaenu'r neges fod eich geiriau'n cyfrif wrth son am faths, rwy'n siwr y bydden ni'n gweld gwahaniaeth".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2013