Yr Athro Graham Donaldson fydd yn adolygu addysg yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Graham DonaldsonFfynhonnell y llun, Prifysgol Glasgow
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Graham Donaldson fydd yn arwain adolygiad o'r system addysg yng Nghymru

Mi fydd academydd o'r Alban yn arwain adolygiad o'r system addysg yng Nghymru.

Mae Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, wedi cyhoeddi mai'r Athro Graham Donaldson, fydd yn arwain yr adolygiad fydd yn edrych ar addysg o'r cyfnod sylfaenol i gyfnod allweddol pedwar (14 i 16 oed).

Pwrpas yr adolygiad fydd cryfhau'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn ogystal â'r profion i weddnewid addysg.

Mae Graham Donaldson yn Athro yn Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow ac wedi gwneud adolygiad tebyg yn ddiweddar yn yr Alban.

Rhan o'r gwaith fydd paratoi'r trywydd i ddisgyblion ddilyn patrwm gwaith fydd yn arwain at gymhwyster Bagloriaeth Newydd Cymru.

Cam hanesyddol

Meddai Mr Lewis,: "Rwyf am weld cwricwlwm yn cael ei ddatblygu, cwricwlwm a fydd yn creu cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ddysgu mewn modd sy'n meithrin eu gallu i feddwl, i weithredu, i ffynnu ac i addasu.

"Rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi'r cam nesaf ar ein taith tuag at Gwricwlwm Cymru - penodi'r Athro Graham Donaldson i arwain adolygiad cynhwysfawr, annibynnol, manylach o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r trefniadau asesu yng Nghymru.

"Wrth arwain yr adolygiad hwn, bydd yn llywio rhaglen waith sydd i weddnewid addysg yng Nghymru ac yn gam hanesyddol ymlaen yn ei hanes.

"Rwyf wedi gofyn i'r Athro Donaldson amlinellu gweledigaeth glir, gydlynol ar gyfer addysg yng Nghymru, o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, gan ei chysylltu'n uniongyrchol â'n system gymwysterau newydd.

Profiad o'r byd addysg

Dechreuodd Yr Athro Donaldson ddysgu mewn ysgolion yng Nglasgow a Sir Dumbarton yn 1970 cyn mynd ymlaen yn 1983 i weithio fel arolygydd ysgolion.

O 2002 i 2010 roedd yn Uwch Arolygydd Ysgolion, yn Brif Weithredwr i'r Arolygaeth Addysg ac yn ymgynghorydd i Lywodraeth yr Alban ar bob agwedd o addysg heblaw am brifysgolion.

Yn ogystal, mae o wedi cynnal adolygiadau o wledydd ar gyfer y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), arwain Cynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau fel Llywydd,a helpu i ddatblygu rhaglen Llywodraeth yr Alban i ddiwygio'r cwricwlwm, Curriculum for Excellence.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol