Teulu yn galw am ymchwiliad yn ysbytai un bwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae perthynas claf fu farw wedi iddyn nhw gael eu trin yn ysbytai Singleton a Threforys wedi galw am ymchwiliad i bob ysbyty o fewn bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Yn ôl Graham Lucas, bu farw ei fam yng nghyfraith, Margaret Hoskins, wedi iddi gael gofal gwael yn ysbytai Singleton a Threforys, ac mae wedi cwrdd â swyddogion y bwrdd iechyd, yn galw am adolygiad ehangach o ysbytai'r bwrdd.
Mae'r teulu yn galw am yr adolygiad ehangach am ei bod eisiau dwyn y rhai sydd yn gyfrifol i gyfri ac er mwyn darganfod os oes na achosion eraill o esgeulustod o ran gofal wedi bodoli.
Mae llywodraeth Cymru eisoes yn adolygu safonau gofal yn ysbytai Tywysoges Cymru a Chastell Nedd Port Talbot, tra bod y bwrdd iechyd hefyd yn cynnal adolygiad.
Diffyg gweithredu
Mae bwrdd iechyd ABM yn cydnabod nad oedd rhai agweddau o ofal Mrs Hoskins wedi cyrraedd y safonau sy'n cael eu disgwyl, ond maen nhw'n dweud bod yr adolygiadau presennol yn ddigonol.
Dywedodd Graham Lucas wrth BBC Cymru:
"Mi wnaethon ni weld y staff nyrsio yn dod, yn dosbarthu meddyginiaeth, rhoi fe iddi mewn pot a'i adael e wrth ymyl bwrdd ei gwely a cherdded i ffwrdd. Mi fyddai'r staff nyrsio yn dod aton ni ac yn dweud bod Margaret yn cuddio ei meddyginiaeth yn ei gwely ac nad oedd hi yn cymryd y moddion.
"Yn ein tyb ni ac yn nhyb y bwrdd iechyd mi ddylai'r staff nyrsio fod wedi rhoi'r feddyginiaeth iddi a'i goruchwylio hi. Roedden nhw'n gwybod bod na broblem. Ond wnaethon nhw ddim gweithredu i ddelio gyda'r broblem."
Mewn datganiad, ymddiheurodd bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg gan ddweud nad oedd safon y gofal ddigon da ar adegau.
Ond honnodd y bwrdd eu bod wedi cymryd camau i sicrhau bod cleifion yn cael eu bwydo, a bod newidiadau i sicrhau nad oedd meddyginiaeth yn cael ei adael ar gypyrddau neu fyrddau.
Safon uchel
"Tra bod y mwyafrif o ofal yn ein hysbytai yn wych - mae bwrdd iechyd ABM yn delio gyda bron i filiwn o gleifion bob blwyddyn yn ein pedwar prif ysbyty yn unig ac ein cyfradd cwynion yw 0.15% - rydyn ni'n ymwybodol bod adegau pan nad yw hyn yn wir i bawb.
"Mae gan bob claf yr hawl i ddisgwyl gofal o safon uchel, gyson ac rydyn ni'n gwneud ein gorau i sicrhau bod hyn yn cael ei gynnig ar bob ward ac adran."
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru: "Mae disgwyl i Mr Lucas gwrdd â'r Prif Swyddog Nyrsio fis nesaf i drafod ei bryderon wyneb wrth wyneb.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn gweld y cyfarfod yn un adeiladol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014