Iechyd: Galw am ymchwiliad i esgeulustod

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Tywysoges CymruFfynhonnell y llun, Mick Lobb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r honiadau yn ymwneud â chlaf a gafodd driniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae galwadau i gynnal ymchwiliad i nifer y marwolaethau a safonau gofal o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn honiadau fod claf oedrannus wedi cael ei hesgeuluso mewn dau ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, Andrew RT Davies, eisiau ymchwiliad tebyg i arolwg Keogh, sydd wedi rhoi 11 o ysbytai yn Lloegr o dan ofal mesurau arbennig.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro. Dywed Llywodraeth Cymru nad oes angen ymchwiliad.

Cwyno

Fe wnaeth BBC Cymru ymchwilio i achos dynes oedrannus a gafodd driniaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ar dri achlysur gwahanol rhwng Awst 2010 a Thachwedd 2012, pan fu farw.

Pan aed â hi i'r ysbyty y tro cyntaf, fe wnaeth y teulu gwyno i'r bwrdd iechyd.

Mae BBC Cymru wedi siarad â'r teulu, oedd ddim eisiau datgelu eu henwau.

"Roedd o'n gwbl gywilyddus. Yn aml byddwn i yn mynd i ymweld â hi a byddwn yn sylwi nad oedd wedi derbyn bwyd na diod am rai dyddiau.

"Roedd hi'n wan a ddim yn gallu codi gwydr o ddŵr i'w cheg, roedd hi'n dioddef o syched enbyd.

"Fe wnaethom eistedd wrth ochr ei gwely a gweld ei thafod yn chwyddo ac yna yn cracio. Fe wnaeth ei gwefusau dorri oherwydd diffyg dŵr.

"Ar y dechrau roedd yn ffwndrus, bron yn anymwybodol, fel petai mewn coma."

Dywedodd y bwrdd iechyd y byddant yn cynnal ymchwiliad POVA, ymchwiliad i oedolion bregus.

Ond ni wnaeth y bwrdd gysylltu â'r teulu am chwe mis. Fe ymddiheuron nhw a dweud bod gwersi wedi eu dysgu, ond ni chafodd ymchwiliad POVA ei gynnal.

Problemau

Pan aeth y ddynes yn ôl i'r ysbyty yn 2012, dywed y teulu fod problemau tebyg wedi codi eto.

Fe wnaethant gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol. Yr adeg hynny cafodd y teulu wybod nad oedd ymchwiliad POVA wedi ei gynnal.

Pan gafodd yr ymchwiliad ei gynnal maes o law, cafodd nifer o honiadau eu profi.

Fe waeth y bwrdd iechyd gyfaddef:

  • Fod y claf wedi cael ei llonyddu yn ddiangen

  • Fod meddyginiaeth ar bresgripsiwn heb gael ei roi

Roedd y ddynes wedi colli un goes ac fe wnaeth y bwrdd fethu a rhoi gofal i'r rhan hynny o'i chorff.

"Fe wnaethom egluro sut oedd tynnu'r prosthesis, ac yna fe wnaethom ddangos sanau priodol yr oeddwn wedi ei darparu ar ei chyfer.

"Fe wnaethom hefyd rhoi eli er mwyn sicrhau nad oedd ei choes yn chwyddo. Fe wnaethom egluro hyn i'r staff, "meddai un aelod o'r teulu.

"Pan gwynais ei bod yn cael ei llonyddu yn ddiangen, fe ddywedon nhw ei bod yn sgrechian yn y nos. Pan ofynnais iddi pam ei bod yn sgrechian yn y nos, dywedodd hi wrthyf nad oeddynt wedi tynnu'r goes yn y pythefnos ers iddi fod yno.

"Fe wnaeth aelod o'r staff fy nghynorthwyo i dynnu'r prosthesis, ac yna i dynnu sanau oedd yn llawn wrin. Roedd y sanau wedi eu gadael ar y prosthesis am bythefnos.

"Fe wnaeth yr aelod o staff droi i ffwrdd wedi ei ffieiddio, gan ddal y sanau hyd braich."

Gwnaed nifer o argymhellion, ond dywed y teulu fod amgylchiadau tebyg wedi codi pan aed â'r ddynes i Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn Awst 2012.

Ysgyfaint

Yna cafodd ei throsglwyddo i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle bu farw ym mis Tachwedd.

Dywed y teulu fod y staff wedi dweud wrthynt eu bod yn rhoi'r gorau i'r feddyginiaeth gan fod y claf yn marw o niwmonia.

Ond yn ôl archwiliad post mortem, doedd dim golwg o niwmonia ar yr ysgyfaint. Cofnodwyd i'r ddynes farw o drawiad ar y galon.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y cynulliad, Andrew RT Davies:

"Rwy'n credu ein bod angen ymchwiliad Keogh tebyg i'r un yn Lloegr er mwyn mynd i'r afael â'r gwir bryderon yn ein hysbytai - mae angen hyn er mwyn sicrhau ein bod yn hyderus fod 'na ateb i bryderon ein byrddau iechyd, clinigwyr a theuluoedd.

"Mae angen sicrhau fod yna strwythur mewn lle fel nad yw rhai o'r straeon ofnadwy sy'n cael eu clywed yn Lloegr yn cael eu hailadrodd yma."

Ymddiheuro

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod yr achos yn gwbl annerbyniol a'u bod yn ymddiheuro am y diffyg gofal.

Ychwanegon nhw fod staff wedi derbyn hyfforddiant i godi safonau a'u bod wedi gofyn i'r teulu am fwy o fanylion er mwyn ymchwilio ymhellach, ond nad ydynt wedi derbyn y wybodaeth eto.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maent wedi ymrwymo i ddiweddaru'r drefn gwyno a'u bod yn cynnal arolwg o'r dref o arolygu gofal iechyd.

Dywedon nhw fod y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi tanlinellu gwerthoedd sylfaenol y gwasanaeth iechyd ac wedi amlinellu mesurau er mwyn sicrhau fod y gwerthoedd hynny yn cael eu diogelu yn y dyfodol.

O ganlyniad i hyn, dywedon nhw nad oeddynt yn gweld yr angen am ymchwiliad cyhoeddus.

Yn ystod y ddau fis diwethaf cafodd dwy nyrs o Ysbyty Tywysoges Cymru eu harestio ar amheuaeth o newid dogfennau. Mae'r ddwy wedi eu hatal o'u gwaith.

Pan ofynnwyd a oedd yna gysylltiad rhwng achos y claf ac ymchwiliad yr heddlu, dywedodd y bwrdd iechyd nad oedd yn gallu gwneud sylw tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol