Llawdriniaeth 3D yn 'arloesol'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn gafodd anafiadau difrifol i'w wyneb mewn damwain beic modur wedi cael llawdriniaeth arloseol yn defnyddio darnau 3D wedi eu printio.
Mae'n debyg mai Stephen Power o Gaerdydd yw'r claf trawma cyntaf yn y byd i gael printio 3D yn rhan o bob cam o'i driniaeth.
Roedd rhaid i ddoctoriaid yn Ysbyty Treforys, Abertawe dorri esgyrn ei fochau eto cyn ail-adeiladu ei wyneb.
Fe ddywedodd Mr Power fod y llawdriniaeth wedi newid ei fywyd.
Prydain yw un o arloeswyr byd technoleg 3D mewn triniaeth, gyda thimau yn Llundain a Newcastle hefyd yn defnyddio'r dechnoleg.
Cyn hyn, mae mewnblaniadau wedi eu printio wedi cael eu defnyddio i drin cyflyrau genedigol.
Hon oedd y llawdriniaeth gyntaf i ddefnyddio modelau wedi eu hadeiladu'n bwrpasol, canllawiau, platiau a mewnblaniadau er mwyn trin anafiadau fisoedd wedi iddyn nhw ddigwydd.
Er ei fod o'n gwisgo helmed, fe gafodd Mr Power, 29, anafiadau difrifol mewn damwain yn 2012, ac fe dreuliodd bedwar mis yn yr ysbyty.
"Nes i dorri esgyrn y ddwy foch, fy ngen, fy nhrwyn a chracio fy mhenglog," meddai.
"Dw i ddim yn cofio'r ddamwain - dw i'n cofio pum munud cyn hynny, wedyn deffro yn y 'sbyty ychydig fisoedd wedyn ."
Er mwyn ceisio creu cydbwysedd yn ei wyneb, fe ddefnyddiodd y t卯m sganiau i greu a phrintio model cymesur 3D o benglog Mr Power, cyn mynd ati i greu canllawiau a phrintio platiau arbennig.
Dywedodd yr arbenigwr genol-wynebol Adrian Sugar fod y printio 3D wedi cael gwared ar y gwaith dyfalu all fod yn rhwystr mewn gwaith ail-adeiladu.
Meddai, "dw i ddim yn meddwl fod 'na gymhariaeth - mae'r canlyniadau mewn cae gwahanol i unrhywbeth 'dy ni wedi ei wneud o'r blaen.
"Be mae hyn yn ei olygu ydy ein bod ni'n gallu bod llawer yn fwy manwl. Mae pawb yn dechrau meddwl yn yr un ffordd - dydy dyfalu ddim yn ddigon da."
Fe gymrodd y driniaeth wyth awr i'w chwblhau, gyda'r t卯m yn ail-dorri esgyrn y bochau yn gyntaf cyn ail-adeiladu'r wyneb.
'Newid fy mywyd'
Cafodd mewnblaniad titaniwm ei ddefnyddio i ddal yr esgyrn yn eu lle.
Fe ddywedodd Mr Power ei fod wedi ei drawsnewid ar 么l y driniaeth - a'i wyneb lawer yn agosach at ei siap cyn y ddamwain.
"Mae e 'di newid fy mywyd," meddai.
"Ro'n i'n gallu gweld y gwahaniaeth yn syth pan nes i ddeffro ar 么l y llawdriniaeth."
Cyn y driniaeth, roedd Mr Power yn defnyddio het a sbectol i guddio'i anafiadau, ond dywedodd ei fod o'n teimlo'n fwy hyderus erbyn hyn.
Meddai, "Dw i'n gobeithio na fydd yn rhaid i mi guddio ddim mwy."