Pryder am drefn cymorth cyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Justice
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y newidiadau i'r drefn cymorth cyfreithiol i rym yn Ebrill 2013

Dywed Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru fod newidiadau diweddar i'r system cymorth cyfreithiol yn rhwystro nifer o rieni rhag defnyddio'r llysoedd er mwyn sicrhau cyfiawnd

Mae BBC Cymru wedi siarad ag un ddynes wnaeth gynrychioli ei hun yn y llys mewn achos dros hawliau gofal plant.

Fe wnaeth yr awdurdodau wrthod ei chais am gymorth cyfreithlon, ond fe roddwyd cymorth cyfreithiol i'r tad gan iddo wneud ei gais ynghynt yn y flwyddyn.

Fe gafodd y system ei newid yn Ebrill 2013, gan olygu nad oedd nifer o achosion yn gallu hawlio cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwrthod y feirniadaeth.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Shailesh Vara nad yw'r drefn o ran pobl sy' angen gorchymyn i'w diogelu wedi newid.

Hawliau gofal plant

"Nid yw pobl yn amddiffyn eu hunain yn y llys yn rhywbeth newydd, mae yna nifer sylweddol o bobl o hyd wedi penderfynu amddiffyn eu hunain.

"Mae cymorth cyfreithiol yn parhau i fod ar gael mewn rhai achosion teuluol, er enghraifft lle mae yna brawf o drais yn y cartref. "

Ond mae'r newidiadau yn golygu nad yw nifer o bobl bellach yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol.

Fe wnaeth BBC Cymru fynychu un llys teuluol er mwyn gweld un ddynes yn cynrychioli ei hun yn erbyn cyfreithiwr profiadol mewn achos dros hawliau gofal plant.

'Annheg'

Fe wrthodwyd ei chais am gymorth cyfreithiol, tra bod tad y bachgen wedi llwyddo i gael cyfreithiwr yn rhad ac am ddim gan iddo wneud y cais cyn i'r newidiadau ddod i rym yn Ebrill 2013.

"Roddwn yn llawn ofn, ond ar yr un pryd doeddwn i methu parhau i ddefnyddio cyfreithiwr gan fod y biliau mor uchel, felly roedd yn rhaid i mi wneud y cyfan fy hun," meddai'r ddynes na ellir ei henwi oherwydd rhesymau cyfreithiol.

"Dwi ddim yn meddwl ei fod o'n deg oherwydd fe allai pethau fynd o chwith. Pam dylai'r tad gael cynrychiolaeth yn y llys pan nad oeddwn i yn cael. Dylai fod yna chware teg i'r ddwy ochr.

"Pe bai dim ond un ochr sy'n cael cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yna dwi'n meddwl bod hynny'n annheg. Y cyfan allwch chi wneud yw croesi eich bysedd a gobeithio am y gorau. Does dim arall i wneud."

Dywed Dylan Lloyd-Jones, cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn achosion gofal plant yn Llangefni ac yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas y Gyfraith Cymru fod y newidiadau i drefn cymorth cyfreithiol yn achosi i nifer o bobl droi eu cefnau ar y system gyfiawnder.

"Mae'n rhwystro tad sydd heb weld ei fab am chwe mis rhag gwneud cais am orchymyn llys ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, mae'n gwneud o'n anodd i fenyw sy' wedi cael ei churo gan ei gwr rhag gwneud cais am waharddiad llys.

"Mewn sawl achos mae'n gorfodi nifer o bob i droi eu cefn ar y system, mae'n rhwystro pobl rhag sicrhau cyfle i gael cyfiawnder".

Dywedodd Mr Lloyd-Jones fod y llywodraeth o'r farn y byddai gwasanaeth cymodi yn helpu teuluoedd unwaith i'r newidiadau ddod i rym.

"Ond yn anffodus dyw hyn heb weithio."

Dywedodd nad oedd y llywodraeth wedi rhoi'r strwythur angenrheidiol mewn lle er mwyn sicrhau y byddai gwasanaeth cymodi yn gweithio.

"Yn syml nid oedd rhywun yn gallu troi at wasanaeth cymodi yn yr un modd ag roedd rhywun yn gallu cael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr yn y stryd fawr."

Bregus

Mae Mr Lloyd-Jones yn gwadu fod Cymdeithas y Gyfraith yn gwrthwynebu'r newidiadau oherwydd bod cyfreithwyr wedi elwa yn ariannol o'r hen drefn.

"Ydi mae cyfreithwyr yn colli incwm, ond mae'r rhan rhelyw o gyfreithwyr yn poeni am yr effaith ar drefn cyfiawnder i deuluoedd yn hytrach na'r effaith ar eu hincwm.

"Y nhw sy'n gyfrifol am gynrychioli'r merched, y dynion a'r plant mwyaf bregus ac yn aml mewn sefyllfaoedd anodd iawn."

Dywedodd mai'r peth pwysicaf yw bod pawb yn cael gwrandawiad teg, a bod y llysoedd yn gallu ymchwilio yn drylwyr i'r sefyllfa.

"Ar hyn o bryd mae'r newidiadau i'r drefn yn golygu nad yw hynny'n digwydd," meddai Mr Lloyd-Jones.

Ond yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Shailesh Vara: "Yn syml mae'n anghywir i ddweud ei bod hi'n anoddach i sicrhau fod y drefn yn eich diogelu.

"Mae argaeledd cymorth cyfreithiol ar gyfer gorchymyn diogelwch yn union yr hyn yr oedd cyn y newidiadau.

"Mae gen i gydymdeimlad mawr iawn gyda'r bobl sy'n wynebu achosion o'r fath. Yn aml iawn nid oes angen cymorth cyfreithiol cyn i achosion fel hyn ddod gerbron y llys.

"Gan gostio bron i £2 biliwn y flwyddyn o arian y trethdalwr, hon yw un o'r systemau cymorth cyfreithiol drytaf y byd.

"O ganlyniad bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd fel bod cymorth cyfreithiol yn cael ei sicrhau i'r rhai sydd fwyaf angen cyngor arbenigol gan gyfreithiwr, gan gynnwys pobl sydd wedi dioddef trais yn y cartref.

'Proses anodd'

"Mae cymodi teuluol yn gweithio, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl yn ei ddefnyddio, yn hytrach na mynd drwy'r broses anodd a phoenus o fynd i'r llysoedd.

"Mae miliynau o bunnoedd o arian cymorth cyfreithiol yn parhau ar gael i dalu am gymodi i'r rhai sy'n gymwys, ac rydym yn newid y gyfraith fel bod yn rhaid i gwplau sy'n gwahanu ystyried gwasanaeth cymodi yn hytrach na brwydro yn y llysoedd.

"Pan fo angen i bobl fynd i'r llys rydym yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i'w helpu.

"Ac mae gan farnwyr ddigon o brofiad ac arbenigedd i'w cefnogi, er enghraifft drwy egluro'r drefn a'r hyn sydd i'w ddisgwyl."