Traeth Rhosili: Traeth gorau Prydain yn ôl arolwg
- Cyhoeddwyd
Mae traeth Rhosili ar benrhyn Gŵyr wedi ei enwi fel traeth gorau Prydain, yn ôl canlyniadau arolwg newydd gan wefan deithio TripAdvisor.
Cafodd y traeth ei enwi fel y trydydd traeth gorau yn Ewrop, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol, gan guro traethau yn Sbaen, Groeg, Twrci a'r Eidal.
Llwyddodd y traeth i godi yn safle traethau gorau'r byd hefyd, gan godi o'r degfed safle i'r nawfed safle eleni.
''Newyddion Gwych''
Dywedodd y cynghorydd Nick Bradley o Gyngor Abertawe: ''Mae hwn yn newyddion gwych! Roedd y sylw cenedlaethol a rhyngwladol gafodd bae Rhosili yn 2013 yn haeddianol i bawb sydd yn gweithio i edrych ar ôl y traeth, ac yn sylweddol o ran yr effaith a gafwyd ar y diwydiant twristiaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
''Mae Bae Abertawe yn lle mor ddeniadol ar gyfer gwyliau, ac mae hynny o achos ein cyfoeth naturiol, ac yn enwedig ein harfordir.''
Golygfeydd prydferth
Yn ôl James Kay, llefarydd ar ran TripAdvisor: ''Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod traethau gorau'r DU a'r byd, yn ôl y teithwyr hynny sydd wedi ymweld â nhw, ac sydd wedi canu clod y traethau hyn.
''Mae cael traeth Cymreig wedi ei enwi ymysg y goreuon, nid yn unig yn Ewrop ond drwy'r byd, yn dangos pa mor ffodus ydan ni yma yn y DU i gael golygfeydd mor brydferth ar stepan ein drws.''
Traeth Rhosili ydi'r traeth hiraf ym mhenrhyn Gwyr, ac mae'n ymestyn am dair milltir ar hyd clogwyni dramatig. Mae pentref Rhosili ei hun yn bentref hanesyddol, ac mae modd gweld llongddrylliad yr 'Helvetia' ar y traeth yno hyd heddiw. Cafodd y llong ei dryllio yno yn 1887.