Arbrawf i gau cyffordd 41 yr M4

  • Cyhoeddwyd
Cyffordd 41, M4Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cyffordd 41 yn cau i'r ddau gyfeiriad yn ystod yr haf fel rhan o arbrawf i geisio lleihau traffig

Mae Gweinidog yr Economi Edwina Hart wedi cadarnhau y bydd cyffordd 41 traffordd yr M4 ym Mhort Talbot yn cau fel rhan o arbrawf i geisio lleddfu problemau traffig yn yr ardal.

Bydd yr arbrawf yn dechrau yn yr haf ond does dim dyddiad pendant wedi'i bennu eto.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd Ms Hart: "Fe wnes i ddweud wrth y cynulliad ar Fawrth 5 fod Llywodraeth Cymru'n cynnal astudiaeth ar hyn o bryd o batrymau traffig yn ardal Port Talbot."

Fel rhan o'r astudiaeth honno, fe gadarnhaodd y bydd cyffordd 41 yn cau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod, gyda'r nod o hwyluso'r llif traffig.

Ychwanegodd: "Mae'r astudiaeth yn amcangyfri' y bydd 11% yn rhagor o draffig yn gallu teithio i'r gorllewin ar yr M4 a 2% i'r dwyrain o ganlyniad i'r arbrawf. Mae disgwyl i'r manteision economaidd ehangach, o ran arbed amser, ac o ran lleihau nifer y damweiniau ar yr M4 fod dros £1 miliwn y flwyddyn.

"Bydd yr arbrawf yn dechrau yn ystod haf 2014. Bydd y trefniant hwn yn caniatáu monitro ac asesiad o'r manteision ac yn rhoi data cadarn er mwyn gallu penderfynu ar ffordd ymlaen. Yn ystod yr arbrawf, byddwn yn gofyn i'r cyhoedd am eu sylwadau."

Bydd rhai newidiadau'n cael eu cyflwyno i ffordd yr A48 yn yr ardal a'r rhwydwaith ffyrdd lleol cyn yr arbrawf.

Mae'r llywodraeth wedi cynnig cyfrannu £521,000 tuag at gost cyflwyno'r newidiadau i ffyrdd lleol, meddai'r gweinidog ond nid oedd hyn wedi ei dderbyn yn ffurfiol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol