Trafod gwella rhan o'r M4 rhwng Port Talbot ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Traffig ar yr M4 ger cyffordd 39 Y Groes
Disgrifiad o’r llun,

Traffig trwm: Problem yn aml rhwng Margam a Ffordd Ffabian yn Abertawe

Mae Llywodraeth Cymru am drafod cynlluniau i wella rhan o'r M4 yng Nhastell-nedd Port Talbot.

Yn aml mae mae traffig trwm yn broblem ar ran o'r draffordd rhwng Cyffordd 38 a 42, hynny yw rhwng Margam a Ffordd Ffabian ger Abertawe.

Ar ei hyd mae 'na lefel uwch na'r cyfartaledd o ddamweiniau.

Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Trafnidiaeth, fod "angen astudiaeth".

Mewn llythyr at Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad lleol dywedodd nad oedd ansawdd y draffordd yn ddigon da.

Opsiynau

Ymhlith y problemau y mae'n tynnu sylw atyn nhw mae'r canlynol:

  • cyffyrdd ddim yn safonol;

  • tagfeydd yn ystod oriau brig;

  • cyfradd uwch o ddamweiniau.

Un o'r opsiynau yw cau Cyffordd 40 a 41 yn llwyr neu'n rhannol.

Ond mae nifer o fusnesau yn ardal Aberafan wedi dweud eu bod yn dibynnu ar gwsmeriaid o gyfeiriad Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.

'Ofnadwy'

Dywedodd Iori Davies, perchennog busnes ym Mhort Talbot: "Mae'r traffig yn wael ofnadwy yn gynnar yn y bore ac yn y nos.

"Mae rhywbeth yn gorfod ca'l 'i 'neud ond sai'n credu 'u bo' nhw wedi meddwl yn iawn am hyn gan 'u bod nhw ond yn symud y traffig i ddwy gyffordd, un yn y gorllewin ac un yn y dwyrain."

Mae £100 miliwn yn cael ei wario ar hyn o bryd i godi ffordd ddeuol newydd drwy Bort Talbot, o Gyffordd 38 i Forfa Baglan.

Y gobaith yw y bydd yn agor y flwyddyn nesaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol