Gohirio cynlluniau Rheilffordd Gwili am flwyddyn arall
- Cyhoeddwyd
Er bod y platfform i bob pwrpas yn barod bydd rhaid aros am flwyddyn arall cyn gwerthfawrogi golygfeydd o reilffordd yn Sir Gaerfyrddin, rhai sydd heb eu gweld o gerbyd trên ers dros 40 o flynyddoedd.
Mae tywydd gwael, coed yn cwympo ar y lein a gwaith atgyweirio i bibell ddŵr yn golygu gohirio cynllun Rheilffordd Gwili i ymestyn y rheilffordd o bentre' Bronwydd i gyrion Caerfyrddin.
Yn wreiddiol, roedd y cwmni, sy'n cael ei redeg yn bennaf gan wirfoddolwyr, yn gobeithio agor y trac a'r platfform newydd yng Nghyffordd Gwili erbyn y Pasg eleni.
Ond bydd rhaid gohirio am 12 mis arall ac aros tan y Pasg 2015.
"Y syniad oedd cyrraedd hen Gyffordd Gwili, ryw ddwy filltir i lawr i'r de o'r brif orsaf ym Mronwydd," meddai Jeremy John, Gweinyddwr Busnes Rheilffordd Stêm Gwili.
"Roedd y gwaith yn mynd yn dda a thipyn o'r trac wedi ei osod pan ddaeth y tywydd garw.
"Roedd coed wedi cwympo ar y trac ac roedd yna dipyn o waith i'w symud."
Yna roedd yna broblemau gyda'r cyflenwad dŵr a bu'n rhaid gwneud gwaith atgyweirio brys i bibellau.
Platfform newydd
"Roedd hynny'n golygu codi'r trac unwaith eto a dechrau o'r dechrau," meddai Mr John.
"Mae'r platfform yng Nghyffordd Gwili i bob pwrpas yn barod ond bydd dim modd gorffen y trac mewn pryd.
"Bydd rhan o'r trac yn cael ei gosod eto erbyn yr haf ond bydd hi'n flwyddyn nesa tan iddi gyrraedd yr holl ffordd i'r platfform newydd. "
Cyffordd Gwili, tafliad carreg o Ysbyty Glangwili, oedd yr hen gyffordd yng Nghaerfyrddin gyda threnau'n mynd i Landeilo i un cyfeiriad ac i Fronwydd ac Aberystwyth i'r cyfeiriad arall.
Cafodd y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ei sefydlu yn 1860 a'i chau fel nifer o reilffyrdd eraill fel rhan o doriadau Beeching yn y 1960au.
Bu ar gau am flynyddoedd cyn i Gwmni Stêm Gwili brynu wyth milltir o drac rhwng Cyffordd Gwili a Llanpumsaint yn 1978.
"Yn y pendraw y freuddwyd yw agor yr holl drac hyd Llanpumsaint, ond bydd hynny'n anodd," meddai Mr John.
"Mae'r lein wreiddiol yn croesi nifer o bontydd o oes Fictoria a byddai angen sicrhau fod y pontydd dal yn ddigon cryf i gludo trên.
"Ond ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar y daith i'r de o Fronwydd... Mae'r daith yn dilyn Afon Gwili ac yn hynod o brydferth..."
Mae tua 100 o wirfoddolwyr yn gweithio ar y cynllun gyda thua 230,000 o ymwelwyr yn teithio ar y trên rhwng Bronwydd a gorsaf Danycoed, Cynwyl Elfed, bob blwyddyn.
"Rydyn ni'n cynnig gwaith i grwpiau fel Mencap, yn gweithio gyda'r gwasanaeth prawf, gyda throseddwyr yn gwneud gwaith di-dâl i'r gymuned," meddai.
Siwrne dair awr
Dywedodd nad oedd gan y rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr gysylltiad uniongyrchol â'r diwydiant.
Er bod un neu ddau o ardaloedd diwydiannol fel Pen-y-bont ar Ogwr a Phort Talbot, mae'r rhan fwyaf yn bobl leol, nifer ohonyn nhw'n athrawon â diddordeb mawr mewn trenau.
Mae'r trenau yn teithio ar gledrau maint safonol a dim ond tair rheilffordd fel hyn sydd yng Nghymru - y ddwy arall yw Rheilffordd Llangollen a'r lein rhwng Pont-y-pŵl a Blaenafon.
Pan sefydlwyd y rheilffordd yn wreiddiol, meddai, roedd yna 24 o orsafoedd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth ac roedd y siwrne o 56 milltir yn gallu cymryd hyd at dair awr.
"Dim rhyfedd felly, unwaith i'r mini a cheir ddod yn fwy fforddiadwy fod pobl ddim fynd ar y trên."
Un arall o'r gwirfoddolwyr yw Geoff Richards ddywedodd: "Mae hefyd gynlluniau mwy uchelgeisiol ar gyfer Cyffordd Gwili. Yn y pendraw y syniad yw symud y brif orsaf i Gyffordd Gwili.
"Y ni sy'n berchen ar y tir ac mae yna sôn am godi ffordd fydd yn cysylltu Cyffordd Gwili gyda'r A40.
"Yr unig broblem fydd y gost... Bydd yn rhaid cyflogi rhywun o'r adran briffyrddd ond mae yna ddigon o dir, a digon o le hefyd i adeiladu maes parcio newydd."