Canolfan iechyd Aberteifi: Adeiladu Ebrill nesaf

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Aberteifi
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr am i welyau aros yn Ysbyty Aberteifi

Bydd y gwaith ar ganolfan iechyd newydd yn Aberteifi yn dechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Yng nghyfarfod i drafod sefyllfa gofal iechyd y dref, clywyd hefyd, gan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Chris Martin, y bydd cynllun busnes y ganolfan enwydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn mis Gorffennaf.

Dywedodd Cyfeillion Ysbyty Aberteifi a'r cynghorydd lleol, Catrin Miles, eu bod yn teimlo'n galonogol yn dilyn y cyfarfod, yn arbennig am fod y Cadeirydd wedi mynychu am y tro cyntaf.

Roedden nhw'n croesawu'r amserlen ond yn dweud eu bod â chwestiynau o hyd am yr adnoddau yn yr adeilad newydd.

Mae ymgyrchwyr yn galw i welyau gael eu darparu yn y ganolfan newydd, ond yn ystod y cyfarfod, fe gafodd lluniau o ganolfan iechyd arall debyg ei dangos, fel esiampl o'r hyn allai gael ei adeiladu yn Abertiefi.

Doedd y ganolfan hon ddim yn cynnwys unrhyw welyau.

Gweledigaeth y Bwrdd Iechyd ydi bod gwelyau'n cael eu darparu gan gartrefi gofal yn y gymuned.

Fis Rhagfyr daeth cyhoeddiad y bydd Ysbyty Aberteifi yn rhoi'r gorau i drin cleifion sydd ddim yn gleifion allanol o fis Mawrth ymlaen.

Mae llawer o wrthwynebiad wedi bod i'r penderfyniad yn lleol, ac fe gafodd deiseb gyda 11,042 o enwau ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Ionawr.