Lansio canolfan beicio mynydd Antur Stiniog yn swyddogol
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan beicio mynydd ddiweddara' Cymru yn cael ei lansio yn swyddogol ddydd Gwener, wrth i Bencampwriaeth Rasio Lawr Allt Prydain gael ei chynnal yno dros y penwythnos.
Bydd y rownd gynta' yn cael ei chynnal ar safle Antur Stiniog mewn hen chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae pedwar o lwybrau ar y safle, sy'n rhan o safle Ceudyllau Llechi Llechwedd.
Mae disgwyl i dros 350 o feicwyr gystadlu yn y bencampwriaeth ddydd Sadwrn a dydd Sul, gan rasio ar hyd llwybr serth 1.3 cilometr o hyd.
Fe agorodd y ganolfan ym mis Awst 2012 ac ers hynny mae wedi denu nifer o enwau adnabyddus y gamp yn rheolaidd.
Mae dros 12,000 o feicwyr wedi defnyddio'r ganolfan dros y 18 mis diwetha'.
'Adborth anhygoel'
Dywedodd rheolwr y ganolfan Adrian Bradley, cyn bencampwr Rasio Lawr Allt Cymru a Lloegr:
"Mae'n dda i Antur Stiniog ac mae'n dda i'r ardal - 'da ni ond yma ers tua blwyddyn a hanner. Mae'r lle yn cael adborth anhygoel gan bobl sy'n dod yma, ac am y ffaith yna 'da ni 'di cal y fraint o gynnal y rownd gynta' y flwyddyn yma.
"Mae'r gwestai i gyd yn llawn, gyda rhyw 350 yn cystadlu a 'da ni'n disgwyl tua 1,000 i 1,500 i wylio'r ras.
"Mi fydd rhai o feicwyr gorau Pyrdain a'r byd yma dros y penwythnos - pobl fel Steve Peat, Danny Hart, Gee Atherton. Ma' nhw i gyd 'di bod yn bencampwyr byd.
"Mae'n dangos be' ydy safon y llwybrau yma yn Antur Stiniog - mae 'na rywbeth i bawb yma, i rai sy'n dechrau allan i'r llwybrau caletach. Mae'r 'du' yn llwybr o safon technegol ofnadwy o uchel.
"Mae'r llwybr ei hun yn ofnadwy o dechnegol, mae'n andros o serth ac mae 'na drops mawr arno. Mae 'na rywbeth ar y llwybr i brofi hyd yn oed y gorau'n y byd."
Ychwanegodd Rheolwr Cyffredinol Antur Stiniog, Ceri Cunnington: "Mae'r dre' [Blaenau Ffestiniog] yn trawsnewid yn llwyr ac yn dod yn gyrchfan ar gyfer gweithgareddau antur trwy gydol y flwyddyn.
"Bydd cyfres Rasio Lawr Allt Prydain yn dangos i bobl y tu allan i ogledd Cymru yn union beth sydd ar gael a'r hyn sydd ar y gweill i'r dyfodol."
'Safle eiconig'
Er bod nifer o ganolfannau beicio mynydd eraill yng Nghymru, Antur Stiniog yw'r unig un sy'n darparu gwasanaeth cludiant. Mae'r beicwyr yn cael teithio mewn bws mini i ddechrau'r pedwar llwybr - o'r llwybr glas i ddechreuwyr, coch i feicwyr canolradd, a dau lwybr du i feicwyr profiadol.
Meddai Dee Reynolds, o Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru: "Mae Antur Stiniog mewn safle eiconig, yng nghalon Eryri.
"Mae'n gyfleuster anhygoel ar gyfer un o'r chwaraeon sy'n datblygu gyflyma' yn y DU ac mae'n cydfynd yn berffaith gyda'n nod ni i ddarparu canolfannau awyr agored o ansawdd uchel yma ym Meirionnydd.
"Mae'n safle gwych, fydd yn denu beicwyr o ar draws y DU trwy'r flwyddyn, gan ddod â swyddi twristiaeth pwysig i'r ardal."
Ychwanegodd Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart: "Roedd yn ddifyr iawn gweld sut mae'r safle wedi'i drawsnewid i fod yn rhan o'r arlwy antur yng ngogledd Cymru, tra hefyd yn cadw gafael cryf ar yr etifeddiaeth."
Ar hyn o bryd, mae ail lwybr glas wrthi'n cael ei adeiladu, yn ogystal â thrac sgiliau.
Yn fenter cymdeithasol nid-er-elw, cafodd y safle ei ariannu gydag arian Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru, ac mae'n rhan o gynllun 'Eryri - Un Antur Fawr', sef prosiect £4 miliwn i greu a datblygu cyfleoedd antur awyr agored trwy bedwar safle allweddol.
Y tri safle arall sy'n rhan o'r cynllun yw Parc Coedwig Coed-y-Brenin, Cymdeithas Bysgota Prysor a Gwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2012