Mwy o reolaeth ar y diwydiant tatŵs a thlysau

  • Cyhoeddwyd
Tatŵ
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y llywodraeth yw sicrhau mwy o reolaeth dros y rhai sy'n cynnig gwasanaethau fel clustlysau, thlysau corff eraill a tatŵs

Bydd pobl sy'n dewis cael clustlysau neu datŵs yn cael eu hamddiffyn yn well dan gynlluniau newydd llywodraeth Cymru fydd yn cael eu cyhoeddi'r wythnos yma.

Gall bobl wynebu peryglon i'w hiechyd os nad yw'r rheolau hylendid cywir yn cael eu dilyn wrth gael clustlysau a thatŵs.

Mae'r llywodraeth am sicrhau dulliau gweithio diogel, i'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant ac i gwsmeriaid.

Mae'r cynllun yn rhan o'r Mesur Iechyd Cyhoeddus.

Mwy o reolaeth

Y gobaith yw y bydd y papur gwyn yn golygu mwy o reolaeth dros y rhai sy'n cynnig gwasanaethau fel gosod clustlysau a thlysau corff eraill, tatŵs, lliwio croen, aciwbigo (acupuncture) ac electrolysis.

O dan y cynllun, byddai rhaid i fusnesau sy'n cynnig y gwasanaethau basio prawf i ddangos eu bod yn addas i wneud hynny.

Ni fyddai modd gweithio heb fod ar y rhestr.

Fel rhan o ofynion y cynllun, byddai angen i gwmnïau gynnig ymgynghoriad i sicrhau nad oes gan y cwsmer broblemau iechyd blaenorol, a rhoi cyngor ar sut i leihau heintiau.

Byddai'n rhaid cyrraedd gofynion hylendid hefyd.

Ddydd Sul, daeth cadarnhad y byddai dyletswydd ar gynghorau i asesu, ac adolygu'r galw lleol am doiledau cyhoeddus.

Mae elusennau wedi dadlau ers tro bod toriadau i ddarpariaeth toiledau cyhoeddus wedi cael effaith fawr ar bobl hŷn a phobl anabl.