TGAU: 'dim dadl o blaid ail-raddio,' medd adroddiad
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad am ganlyniadau arholiadau TGAU Saesneg Iaith wedi dweud nad oes modd cyfiawnhau ail-raddio.
Yn ôl yr adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru, roedd y bwrdd arholi CBAC wedi dilyn y canllawiau yn gywir ar gyfer arholiadau mis Ionawr.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd yna reswm penodol am y canlyniadau oedd yn siomedig, yn ôl nifer o benaethiaid.
Y casgliad yw bod rhai athrawon wedi bod yn rhy hael wrth ddarogan graddau disgyblion, ac na wnaeth pob ysgol ymateb yn gywir i'r ffaith fod y marcio yn fwy llym eleni.
'Dysgu gwersi'
Ond dywedodd y gwrthbleidiau na fyddai rhieni, disgyblion ac athrawon fawr callach am yr hyn "aeth o'i le".
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis wrth ymateb i'r adroddiad yn y Cynulliad fod "y marcio yn llym" ond "bod angen dysgu gwersi".
"Dylai athrawon fod yn fwy gofalus wrth broffwydo graddau ... dim ond mewn nifer fach o achosion mae amcangyfri'r athrawon yn cyfateb i ganlyniadau.
"Dwi'n benderfynol y bydd ysgolion a disgyblion yn cael pob cefnogaeth bosib' a bod ein cymwysterau ni'n berthnasol, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ateb y gofyn."
Mae CBAC wedi dweud eu bod yn croesawu casgliadau'r adolygiad a'u bod eisoes yn gweithredu.
Ar waith
Dywedodd llefarydd fod CBAC wedi:
gwahodd y canolfannau i wneud cais am gopïau wedi'u sganio o sgriptiau 10% o gofrestriadau pob uned, i'w darparu'n rhad ac am ddim;
darparu detholiad o atebion ymgeiswyr ar-lein ar gyfer pob uned, ynghyd â sylwadau arholwyr, i enghreifftio'r safonau a gwasgariad cyffredinol y marciau;
estyn dyddiad cau cyflwyno cofrestriadau ar gyfer unedau arholiadau TGAU Saesneg Iaith yr haf tan Ebrill 30;
a dechrau cyfarfodydd adolygu arholiadau i athrawon ddydd Llun mewn lleoliadau led led Cymru.
Dywedodd y prif weithredwr Gareth Pierce: "Rydym wedi cytuno ar amserlen gyflwyno a phroses camau nesaf y diwygio cymwysterau yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru. Mae CBAC wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r consortia rhanbarthol er mwyn sicrhau y bydd digwyddiadau hyfforddi a chyfres gref o adnoddau cefnogi'n cael eu darparu, yn cynnwys darpariaeth ar-lein.
'Ceisiadau ailfarcio'
"Cytunwn bod lle i estyn y drefn o gyfnewid data ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau dyfarnu, a bydd hyn yn berthnasol i'r dull "canlyniadau cymaradwy" sydd i'w ddefnyddio wrth ddyfarnu'r TGAU Saesneg Iaith yn yr haf 2014. Bwriad hyn fydd sicrhau cymaroldeb â chanlyniad ystadegol cyffredinol carfan 2013.
"Bydd CBAC yn parhau i weithredu'r ceisiadau ailfarcio a dderbyniwyd fel rhan o'r broses Ymholiadau am Ganlyniadau. Mae'n arferol gorfod newid marciau nifer fach o ymgeiswyr ar sail y broses hon, felly gall rhai newidiadau gael eu gwneud."
Dywedodd fod CBAC yn cydymdeimlo ag ymgeiswyr ac athrawon wedi'u heffeithio gan ganlyniadau annisgwyl.
"Gobeithiwn felly y bydd yr adolygiad hwn yn rhoi cyd-destun i'r canlyniadau hyn ac y bydd y camau sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd yn adfer hyder yn y trefniadau ar gyfer cyfres yr haf a blynyddoedd i ddod.
"Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cael eu datblygu a'u cyflwyno'n llwyddiannus ac yn amserol. Dyma gyfle i Gymru ddatblygu cymwysterau safonol sy'n edrych tuag at y dyfodol y bydd modd eu cymharu â'r goreuon yn y byd."
Cymru'n unig
Roedd arholiadau Ionawr ar gyfer unedau cymhwyster newydd, y TGAU Saesneg Iaith sy'n benodol ar gyfer Cymru'n unig.
Fe fydd y canlyniadau yn cyfrannu at y radd derfynol pan fydd unedau eraill wedi'u cwblhau.
Roedd ymateb nifer o athrawon a rhieni wedi bod yn ffyrnig am fod y graddau a roddwyd yn llawer gwaeth na'r disgwyl, ac fe ysgrifennodd holl benaethiaid ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf at y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn honni bod rhieni wedi colli hyder yn y system arholi.
Yn eu hymchwiliad mewnol casglodd CBAC y byddai'r papurau a farciwyd gan un arholwr yn cael eu hail-farcio ond bod y system farcio ar y cyfan yn gyson.
Yn ôl CBAC, mae'r arholiad newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar gywirdeb o safbwynt gramadeg, sillafu a chreu brawddegau.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gynnal adolygiad o'r mater, a chanlyniad yr adolygiad yna gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis ddydd Mawrth mewn datganiad yn y Senedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2014