Ymgyrch i adnewyddu Traeth y Gogledd yn Llandudno

  • Cyhoeddwyd
Traeth y GogleddFfynhonnell y llun, Kev Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cerrig eu gosod ar Draeth y Gogledd 12 mlynedd yn ôl.

Mae ymgyrchwyr yn Llandudno am adnewyddu traeth yn y dref mewn ymgais i hybu twristiaeth.

Gobaith yr ymgyrchwyr ydi y bydd Cyngor Conwy yn ail-osod tywod ar Draeth y Gogledd ar ôl i'r cyngor osod cerrig arno 12 mlynedd yn ôl i atal erydiad y tir gan y môr.

Mae stormydd diweddar y gaeaf wedi golchi llawer o'r cerrig oddi ar y traeth.

Eisoes mae'r cyngor wedi cytuno i weithio gyda'r ymgyrchwyr ond yn rhybuddio y gallai ail-osod tywod ar y traeth gostio miliynau o bunnoedd.

Dywedodd Alison Shileds, un o'r ymgyrchwyr: ''Dwi'n gwylio plant yn dringo dros y cerrig ac yn meddwl eu bod am dorri eu ffêr.

''Dwi'n lleol - wedi fy ngeni a fy magu yn Llandudno - ac fe wnes i dreulio rhan helaeth o fy mhlentyndod ar Draeth y Gogledd. Dwi'n gwybod yn iawn pa mor brydferth yr oedd y traeth yn arfer bod.''

Mae hi'n dweud fod pobl mor bell i ffwrdd ag Awstralia a Fietnam wedi cefnogi'r ymgyrch.

''Tydi hyn ddim ond am bobl tref Llandudno - mae o am yr ymwelwyr sy'n dod i'r dref," meddai. "Mae'n mynd i ladd ein diwydiant twristiaeth."

Ail-osod cerrig

Yn ystod y mis diwethaf mae rhai o'r cerrig wedi cael eu hail-osod ar y traeth.

Dywedodd ymgyrchydd arall, Ian Turner: ''Hon ydi brenhines y canolfannau twristiaeth Cymreig ac ar hyn o bryd mae Llandudno wedi colli ei choron.

''Yr hyn yr ydan yn ei ddweud ydi beth os oes ffordd well, ffordd fwy effeithiol sydd yn gydnaws gyda thwristiaeth i arbed llifogydd yn y dref? 'Dan ni'n cytuno fod angen diogelu rhag effaith y môr ond nid y mesurau yma.''

Dywedodd y Cynghorydd Mike Priestley, aelod y cabinet dros yr amgylchedd, ei fod wedi cydweithio gyda'r ymgyrchwyr ond yn cwestiynu a fyddai traeth tywod yn ddigon o amddiffyniad yn erbyn llifogydd.

'Opsiynau'

''Oes, mae modd edrych ar opsiynau,'' meddai.

''Roedd rhai yn dweud fod angen dod â thraeth yn ôl, un fyddai'n cael ei ddal yn ei le gan hen bileri pren.

''Does 'na neb yn ei iawn bwyll yn mynd i roi miliynau ar filiynau o bunnoedd i wneud hynny, gan wybod am y dystiolaeth sydd yn bodoli i gadw'r tywod yn ei le.''

''Er mwyn cael y dystiolaeth yna mae'n rhaid i chi fodelu eich argymellion. Er mwyn modelu'r argymhellion hyn fe fydd yn costio degau, os nad cannoedd, o filoedd o bunnoedd.''