Iechyd milwyr: llywodraeth yn cwestiynu cofnodion

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "hollol gandryll" am yr honiadau ddydd Sul

Mae Llywodraeth Cymru wedi cwestiynu cywirdeb cofnodion cyfarfod sy'n awgrymu bod prif feddyg y lluoedd arfog yn poeni am driniaeth feddygol i filwyr gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Yn ôl adroddiadau ym mhapurau newydd ddydd Sul, mae prif swyddog meddygol y lluoedd arfog eisiau symud milwyr o Gymru i Loegr i gael triniaeth oherwydd oedi honedig yn y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl y Sun on Sunday, dywedodd y Llawfeddyg Cyffredinol Marsial yr Awyrlu Paul Evans wrth gyd-gyfarfod o'r bwrdd iechyd a'r Weinyddiaeth Amddiffyn fod milwyr yng Nghymru yn wynebu rhestrau aros hirach am driniaeth nag yn unman arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones nad oedden nhw'n credu bod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o'r trafodaethau.

Aros yn hirach

Ym mis Chwefror cafodd cyfarfod ei gynnal rhwng swyddogion yr Adran Iechyd, y Weinyddiaeth Amddiffyn a swyddogion o Gymru a'r Alban i drafod triniaeth aelodau o'r lluoedd arfog.

Mae cofnodion gafodd eu rhyddhau gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dangos bod y Llawfeddyg Cyffredinol Marsial yr Awyrlu Paul Evans wedi dweud bod milwyr yn wynebu amseroedd aros hirach yng Nghymru nac yn unman arall.

Dros y penwythnos dywedodd Llywodraeth Cymru fod "rhesymau gwleidyddol" y tu ôl i'r feirniadaeth ond erbyn hyn mae Mr Jones wedi cwestiynu cofnodion y cyfarfod.

Dywedodd llefarydd ar ei ran: "Os byddai'r cofnodion wedi eu rhoi i ni i gymeradwyo, ni fyddwn wedi eu cymeradwyo yn y ffurf honno.

"Nid ydyn ni'r credu eu bod nhw'n adlewyrchiad cywir o'r trafodaethau ..."

'Hollol gandryll'

Ddydd Sul dywedodd Philip Hammond, Ysgrifennydd Amddiffyn Llywodraeth San Steffan, y dylid symud milwyr am driniaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Mr Jones ei fod yn "hollol gandryll" am yr honiadau.

Ddydd Llun dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Mae'r weinyddiaeth o ddifrif am iechyd a budd ein personél ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu'r gorau posib i rai sydd angen triniaeth.

"Mae personél sydd angen gofal eilaidd yn cael eu trin o fewn y GIG, fel arfer yn yr ysbyty mwyaf addas yn agos i'w cartref neu o fewn Unedau Ysbyty'r Weinyddiaeth Amddiffyn sydd wedi eu lleoli yn ymddiriedolaethau'r GIG yn agos i boblogaethau milwrol."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar AC, fod angen i lywodraeth Cymru "gymryd cyfrifoldeb am eu record".

'Toriadau'

"Mae cleifion ar draws y GIG yn dioddef amseroedd aros hirach am driniaeth na mewn ardaloedd eraill o'r DU oherwydd penderfyniad Llafur Cymru i wneud y toriadau mwyaf ar y GIG yng Nghymru.

"Fel yr wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad, ein dyletswydd yw dangos methiannau Llywodraeth Llafur Cymru a'u herio pan fod angen gwella pethau.

"Dydy o ddim bwys faint y bydd y Prif Weinidog yn cwyno, byddwn yn parhau i frwydro dros gleifion yng Nghymru ac ymgyrchu dros rai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog."