Gweilch Dyfi: Maldwyn yn ôl ond disgwyl am Glesni

  • Cyhoeddwyd
Maldwyn y GwalchFfynhonnell y llun, Prosiect Gweilch y Dyfi
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyrhaeddodd Maldwyn Gors y Dyfi brynhawn dydd Mawrth

Mae yna ddathlu ym Mhrosiect Gweilch Dyfi ym Mhowys, wedi i'r gwalch, Maldwyn, ddychwelyd yno brynhawn dydd Mawrth.

Daeth y ceiliog gwalch i enwogrwydd ar ôl ymddangos ar raglen Springwatch y BBC yn 2012.

Mae wedi bod yn dychwelyd i Gors Dyfi, ger Machynlleth, pob blwyddyn ers 2011.

Roedd Maldwyn a'i bartner blaenorol, Nora, wedi magu pedwar o gywion ar y safle. Wnaeth Nora ddim dod yn ôl yn 2013.

Ond cafodd Maldwyn gywion gydag iâr arall y llynedd, sef Glesni.

Dydy hi ddim eto wedi dychwelyd, ond mae arweinwyr y prosiect yn obeithiol y bydd hi. Roedd hi'n ddiwedd Ebrill arni'n cyrraedd y llynedd.

'Profiadol'

Dywedodd Alwyn Ifans, o Gynllun Gweilch y Môr Dyfi, wrth Newyddion Ar-lein:

"Fe wnaeth Maldwyn gyrraedd tua 3:13yh brynhawn Mawrth. 'Da ni ddim yn gwybod be' ydy hanes yr iâr, Glesni - roedd hi'n ddiwedd Ebrill arni hi'n cyrraedd y llynedd.

"Dyna'r tro cynta' iddi fagu ac mae'n anodd dweud, gobeithio daw hi yn y dyddiau nesa' - mae ein golygon tuag at y ffurfafen!

"Os 'da chi am golli un o ddau bâr, yna mae'n well colli'r iâr achos y ceiliog ydy'r un mwya' profiadol - fo sy'n cyflenwi'r bwyd i'r cywion ac ati - dydy colli'r iâr ddim cyn waethed.

"Dydy Glesni ddim wedi cael ei thagio a 'da ni ddim yn gwybod be' ydy ei hanes hi.

Ffynhonnell y llun, Prosiect Gweilch y Dyfi
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tŵr gwylio newydd yn llawer agosach at y nyth

"Ond unwaith ma' nhw'n nythu, dyna'u nyth nhw am weddill eu hoes. Os oes unrhyw dderyn yn trio cymryd drosodd, ma' nhw'n cael eu herlyn oddi yno.

"Dwi ffwrdd o'r gwaith heddiw (dydd Mercher) digwydd bod, ond mi fydda' i'n gwylio'r llif byw drwy'r dydd."

Mae modd gweld llif byw o'r nyth ar wefan, dolen allanol y prosiect - gyda lluniau a synau o'r nyth.

Tŵr gwylio newydd

Ychwanegodd Mr Ifans: "Mae 'na bobl o America ac Awstralia wedi bod yn gwylio'r lluniau! Mae 'na ddiddordeb byd-eang

"Mi gollon ni gyw'r flwyddyn gynt - Ceulan - mi ddaeth hynny â ni i sylw'r byd, yn ogystal â hanes Maldwyn a Glesni.

"Fe wnaeth y cyw cynta' ddeor yn 2011, y diwrnod cyn i Springwatch ddechrau lawr y lôn, felly roedd fel petai popeth yn syrthio i'w le.

"Mae 'na ryw 15,000 o bobl yn ein dilyn ni ar Facebook erbyn hyn, a dros 5,000 ar Twitter.

Roedd 31,000 o bobl wedi ymweld â'r ganolfan y llynedd ac mae 'na obaith o ddenu mwy eleni gyda thŵr gwylio newydd yn agor yno ddydd Llun, fel yr esbonia Mr Ifans:

"Mae'r tŵr gwylio newydd yn agosach at y nyth, mae o ryw 250 llath i ffwrdd. Roedd o i fod yn barod cyn y gaea' ond roedd y stormydd wedi creu tipyn o hafoc.

"Gawson ni arian loteri, rhyw £1.2m i adeiladu a staffio'r tŵr.

"O'r blaen, dim ond agor dros dymor y gweilch oedda' ni - tua diwedd Mawrth i ganol Medi. Ond efo'r tŵr, mi fyddwn ni'n agor drwy'r flwyddyn - ar benwythnosau yn ystod y gaea', er enghraifft, mi fyddwn ni'n cynnal nosweithiau gwylio'r sêr ac ati."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol