Cronfa arian i ddioddefwyr llifogydd Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae cronfa gafodd ei sefydlu i helpu'r rheiny gafodd eu heffeithio gan lifogydd difrifol yng Ngheredigion wedi llwyddo i ddosbarthu £8,000 i bobl leol.
Cafodd dros 30 o gartrefi yn Aberteifi eu heffeithio gan lifogydd, wrth i dywydd garw daro'r ardal ym mis Ionawr.
Cafodd y gronfa ei sefydlu gan ddynes leol, ac mae'r rhoddion wedi eu dosbarthu gan gyngor y dref.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd wedi colli eiddo oherwydd y llifogydd.
'Tynnu at ein gilydd'
Phillippa Noble ddechreuodd y gronfa, oherwydd difrod mawr i gartrefi ac eiddo yn y dref.
Cafodd y syniad ei ddechrau yn wreiddiol i helpu dynes feichiog oedd wedi colli ei gwely oherwydd y llif dŵr.
Dywedodd Ms Noble: "Roedd y gymuned gyfan wedi tynnu at ei gilydd mewn cyfnod anodd ac rydw i'n falch iawn bod rhywbeth da wedi dod o sefyllfa ddrwg."
Cafodd ardaloedd Heol y Santes Fair, Closter Row a'r Strand eu heffeithio gan y llifogydd ddechrau'r flwyddyn.
Wedi i £3,000 gael ei gasglu o fewn pedwar diwrnod, cafodd cyfrifoldeb am y gronfa ei roi i Gyngor Tref Aberteifi.
"Penderfynodd y pwyllgor ddosbarthu'r arian yn gyfartal rhwng y rhai gafodd eu heffeithio," meddai'r cynghorydd Catrin Miles.
"Mae unigolion a mudiadau sydd wedi rhoi arian wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'r rhai oedd wedi cael difrod i'w cartrefi."
Ychwanegodd Mrs Miles bod cynlluniau newydd, ar y cyd gan Gyngor Ceredigion, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, wedi eu rhoi mewn grym i sicrhau na fyddai Aberteifi yn dioddef o lifogydd tebyg eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2014