Cronfa llifogydd Aberteifi: dros £3,000 mewn pedwar diwrnod
- Cyhoeddwyd
Mae cronfa sy'n helpu dioddefwyr llifogydd yn Aberteifi wedi codi dros £3,000 o fewn pedwar diwrnod.
Effeithiodd y llifogydd ar 30 o dai ger Afon Teifi ddydd Gwener, Ionawr 3.
Cafodd y gronfa ei sefydlu'n wreiddiol i helpu menyw feichiog oedd wedi colli ei gwely yn y dŵr ond dywedodd y trefnwyr bod y casgliadau wedi tyfu'n aruthrol.
Mae Cyngor Tref Aberteifi wedi cymryd y cyfrifoldeb am rhoddion i'r gronfa ers dydd Gwener diwethaf a dywedodd llefarydd bod y gronfa wedi cyrraedd £3,000 erbyn dydd Llun yr wythnos hon.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu trigolion i brynu eitemau gafodd eu colli oherwydd y llifogydd.
Cafodd y gronfa ei hagor gan Phillipa Noble ddywedodd bod "difrod dychrynllyd wedi ei wneud i eiddo, gan gynnwys carpedi a dodrefn".
Ychwanegodd: "Fe gollodd fy nghymydog sy'n feichiog ei gwely oherwydd y llifogydd felly fe wnes i apêl ar wefan Facebook er mwyn ceisio cael gwely newydd iddi cyn gynted â phosib.
"Ond mae'r cronfa wedi bod fel pelen eira gyda phobl a busnesau lleol yn darparu dodfren, teganau a dillad gwely i drigolion.
"Mae'r ysbryd cymunedol pobl yr ardal yn wych."
Dywedodd y byddai'r cyngor tref yn delio gyda rhoddion ariannol i'r gronfa, sy'n cynnwys casgliadau mewn archfarchnadoedd lleol.
"Bydd hyn o gymorth arbennig i'r rhai sydd wedi diodde' oherwydd llifogydd yn y gorffennol oherwydd mae eu polisïau yswiriant yn golygu y bydd rhaid iddyn nhw dalu miloedd o bunnau cyn gallu hawlio mwy o arian," meddai.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles o Gyngor Tref Aberteifi a Chyngor Ceredigion: "Fe fyddwn ni'n clustnodi arian sy'n cael ei godi ar gyfer y bobl sydd wedi diodde' oherwydd y llifogydd.
"Fe fydd pwyllgor yn cael ei sefydlu maes o law i ystyried sut i ddosbarthu'r arian i'r dioddefwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2014