Pwy sydd wedi gweld y minc Americanaidd?
- Cyhoeddwyd
Mae cadwraethwyr sy'n ceisio diogelu llygoden bengrwn y dŵr (water vole) yng Nghymru yn gofyn am gymorth y cyhoedd wrth geisio amcangyfrif nifer y mincod Americanaidd.
Y creadur hwn sy'n rhannol gyfrifol am y gostyngiad mawr fu ym mhoblogaeth y llygoden ddŵr - rhywogaeth sydd nawr dan fygythiad.
Mae'r Ymddiriedolaeth Natur yn gobeithio cyhoeddi mapiau ym mis Mai, fydd yn dangos niferoedd y mincod ledled Cymru.
Mae posteri wedi ymddangos yn gofyn i bobl gysylltu â'r Ymddiriedolaeth pe bai nhw'n gweld yr anifail.
Tystiolaeth
"Rydym wedi bod yn casglu data a thystiolaeth ers y Nadolig, " meddai Lorna Baggett, sy'n arwain prosiect minc Americanaidd yr Ymddiriedolaeth.
"Mae yna dystiolaeth o'r anifail mewn sawl ardal, ac mae nifer o bysgotwyr wedi cysylltu â ni.
"Mae yna nifer wedi eu gweld ar y Tywi, y Taf a hefyd yn ardal Castell-nedd.
"Rydym yn gobeithio bydd y data hefyd yn helpu ni i weld sut mae'r anifail yn symud o un ardal i'r llall."
Cafodd y minc Americanaidd ei gyflwyno i Brydain ddiwedd y 20au, ac ar un adeg roedd yn cael ei ffermio ar gyfer ei groen ffwr.
Mae'r cynllun i nodi poblogaeth y minc Americanaidd yn mynd law yn llaw gyda chynllun i ddiogelu'r llygoden ddŵr.
"Byddwn yn gwybod pa lefydd y byddai'n anaddas i geisio ail sefydlu'r llygoden ddŵr, neu pa lefydd hefyd y dylid rheoli rhifau'r mincod," meddai Ms Baggett.
95% yn llai
Yn ôl Nia Stephenson, o Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, y minc Americanaidd sy'n rhannol gyfrifol am y gostyngiad aruthrol a fu yn niferoedd y llygoden ddŵr.
Yn ôl yr amcangyfri' roedd tua 8 miliwn o lygod dŵr ym Mhrydain ddechrau'r 60au, ond roedd y nifer wedi gostwng i 345,000 erbyn 1998 - sy'n ostyngiad o thua 95%.
Cafodd deddf i warchod y llygoden ddŵr ei chyflwyno yn 2008, gan ei gwneud yn drosedd i aflonyddu, ddifrodi neu ymyrryd a'u safleoedd magu.
Dywedodd Ms Stephenson: "Unwaith bod tystiolaeth o bresenoldeb y minc mewn ardal byddwn wedyn yn gosod rafft ar lecyn o ddŵr yn yr ardal.
"Yn y rafft mae yna gawell gyda llawr clai. Gan fod y minc yn greadur busneslyd, bydda' nhw'n sicr o fynd i'r gawell.
"Byddwn wedyn yn gallu gweld o ôl marciau yn y clai, a faint o fincod sydd yn yr ardal."
Newid ac esblygu
Pe bai'r canlyniadau yn gadarnhaol mewn ardal lle mae'r llygoden ddŵr yn ffynnu, byddai'r ymddiriedolaeth wedyn yn gofyn i swyddogion proffesiynol i ddal y mincod a'u difa.
Ychwanegodd Ms Stephenson fod yna dystiolaeth fod y minc Americanaidd wedi sefydlu mewn ardaloedd fel Aberteifi.
"Yno mae niferoedd y llygoden ddŵr wedi gostwng yn aruthrol," meddai, "ond mewn rhannau eraill o Geredigion, fel corstir Tregaron, mae'r niferoedd yn uwch."
Mae'r llygoden ddŵr hefyd wedi diodde' oherwydd newid yn ei chynefin yn deillio o ddulliau ffermio ac o ganlyniad i ffosydd yn diflannu o'r tir.
Dywed cadwraethwyr fod creaduriaid eraill fel mochyn daear, llwynogod ac adar ysglyfaethus yn hela'r llygoden ddŵr.
"Ond mae'r anifail wedi esblygu dros y canrifoedd ac yn gwybod sut i oroesi. Mae'n gallu nofio er mwyn osgoi ei elynion naturiol," meddai Ms Stephenson.
Ond mae'r minc yn nofio ar ôl y llygoden a'i dal.
"Er mwyn osgoi'r dyfrgi mae'r llygoden ddŵr yn gallu diflannu lawr twll i'w nyth, ond mae'r minc Americanaidd benywaidd yn ddigon bach i fynd ar ei hol lawr y twll a'i dal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2012