Dathlu cysylltiad agos ar Ddiwrnod y Dolffiniaid
- Cyhoeddwyd
Mae cysylltiad agos Ceredigion gyda dolffiniaid trwynbwl yn cael ei ddathlu ar Ddiwrnod y Dolffiniaid ddydd LLun.
Ym Mae Ceredigion mae'r nifer mwyaf o ddolffiniaid trwynbwl yn Ewrop ac o ganlyniad mae twristiaid yn heidio i'r ardal o bob cwr o Brydain i gael cipolwg ar y creaduriaid.
200 o ddolffiniaid
Yr amcangyfri' yw bod hyd at 200 o ddolffiniaid trwynbwl oddi ar arfordir Ceredigion, gyda nifer o ddolffiniaid mudol eraill yn ymuno â nhw yn ystod y gwanwyn a'r haf.
Mae Steve Hartley yn hebrwng ymwelwyr ar deithiau cychod ac yn credu bod y diddordeb wedi tyfu'n gyflym.
''Mae'r dolffiniaid wedi bod yma am lawer o flynyddoedd ond, yn fy marn i, mae'r diddordeb wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
''Mae pobl yn mwynhau edrych ar y creaduriaid eiconig hyn yn eu hamgylchedd eu hunain ac edrych o gwch yw'r cyfle gorau i bobl ddod yn agos at yr anifeiliaid hyn ...
''Rydym yn ffodus iawn yng Ngheredigion i gael cymaint o gyfoeth naturiol - does dim rhyfedd fod pobl am ddod yma,'' meddai.
Cysylltiad agos
Yn ôl Ann Eleri Jones o Wasanaeth Twristiaeth Ceredigion, mae'r cysylltiad agos rhwng y dolffiniaid a Cheredigion wedi datblygu.
''Dros y blynyddoedd diwethaf yng Ngheredigion, mae Bae Ceredigion wedi tyfu mewn poblogrwydd gydag ymwelwyr yn manteisio ar y golygfeydd godidog a'r cyfle i gerdded, beicio, syrffio a hwylio," meddai.
"Ar ben hyn mae ganddon ni'r engrheifftiau gorau o fywyd gwyllt gyda'n poblogaeth o ddolffiniaid. Does dim golygfa well na gweld y creaduriaid hyn yn neidio a chwarae ym Mae Ceredigion,'' meddai.