Tynnu sylw beicwyr modur i beryglon ffordd yr A494

  • Cyhoeddwyd
A494Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae pump gyrrwr beic modur wedi marw ar y ffordd rhwng Corwen a'r Bala yn ystod y ddegawd diwethaf

Wrth i nifer o yrrwyr beic modur gasglu dros y Pasg, mae nifer o fudiadau yn eu targedu er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o beryglon ffordd yr A494.

Mae Gwasanaeth Tân y Gogledd, y Gwasanaeth Ambiwlans, yr Asiantaeth Ffyrdd, Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, BikeSafe, GoSafe a Heddlu'r Gogledd yn cydweithio i dynnu sylw gyrrwyr o'r peryglon wrth deithio ar hyd rhan arbennig o'r A494 rhwng Corwen ( cyffordd A5) a'r Bala.

Mae'r mudiadau yn cynnal y digwyddiad yng nghaffi Ponderosa yng nghanolfan Bwlch yr Oernant, Llangollen, man casglu poblogaidd i yrrwyr beiciau modur.

Un o brif amcanion y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth o'r peryglon pan yn gyrru ar hyd y ffordd brydferth ond heriol hon.

Fe fydd arwyddion newydd yn cael eu gosod ac mae taflenni wedi'u cynhyrchu i sicrhau bod gyrrwyr yn ddiogel yn yr ardal.

18% o farwolaethau ffyrdd

Mae gyrrwyr beiciau modur yn fwy tebygol o gael eu lladd neu'u hanafu'n ddifrifol nag unrhyw ddefnyddiwr ffordd arall, gan gynrychioli 1% o draffig ffyrdd ond yn cyfrif am 18% o'r holl farwolaethau.

Rhwng 2004 a 2014, fe gafodd 5 eu lladd ac 20 eu hanafu'n ddifrifol ar y rhan benodol hon o'r ffordd.

Mae rheolwr diogelwch ffyrdd Cyngor Gwynedd, Colin Jones yn dweud ei fod yn cydnabod bod gwrthdrawiadau marwol sy'n cynnwys beiciau modur yn aml yn rai y gellid fod wedi'u hosgoi.

Mae'n dweud: "Dwi'n credu bod y bartneriaeth wedi cymryd camau sylweddol ym maes addysg, peirianneg a gweithredu'r gyfraith i geisio lleihau marwolaethau ac anafiadau diangen ar hyd y ffordd hon.

"Fel gweithiwr diogelwch ffyrdd a gyrrwr beic modur, dwi'n credu bod cydweithio'r Bartneriaeth yn ganolog i lwyddiant y prosiect a gostwng ystadegau'r anafiadau yn cynnwys gyrrwyr beic modur sy'n defnyddio'r A494."

Wrth ychwanegu at y sylwadau hyn, dywedodd yr uwcharolygydd Rob Kirman, sy'n rheoli Uned Heddlua Ffyrdd y Gogledd: "Dyden ni ddim yn ceisio gelyniaethu'r gymuned o feicwyr modur - mae hyn am addysg ac am weithredu'r gyfraith i'r rheiny sy'n toseddi.

"Rydym am iddyn nhw fwynhau'r ffyrdd ond yn bennaf, rydym am iddyn nhw yrru'n ofalus ac yn gyfrifol."

"Fe ddylen nhw fod yn ymwybodol eu bod yn wynebu'r risg o farwolaeth neu anaf difrifol drwy fychanu'r risg sy'n codi o orflinder yn sgil gyrru pellter hir neu ganolbwyntio ar ffyrdd heriol ac anghyfarwydd."