'Dim angen poeni' am roi cymaint o ferched ar y rhestr
- Cyhoeddwyd
Mae barwnes Llafur wedi dweud nad oes gan y blaid "unrhywbeth i boeni yn ei gylch" o ganlyniad i gynlluniau i gynyddu nifer y merched sydd yn cael eu hethol fel gwleidyddion.
Mae'r blaid Lafur yng Nghymru wedi cymeradwyo'r syniad o ddewis merched yn hanner y seddi y mae gyda nhw siawns da o ennill yn yr etholiadau lleol yn 2017.
Ond yn ol y Farwnes Gale, oedd yn gyn ysgrifennydd cyffredinol ar gyfer y blaid Lafur yng Nghymru, fydd yr ymgeiswyr sydd yn ddynion ddim yn cael eu dad-ddewis.
Dywedodd bod ei phlaid wedi gwneud mwy na rhai ar y mater yma ond bod ei record dal yn wael.
Mi ddylai pleidiau fod yn gwneud mwy i wneud yn siwr bod merched yn cael eu dewis meddai a rhestr fer o ferched yw'r unig ffordd y mae hynny yn mynd i ddigwydd.
"Mi allen ni barhau i wneud cynydd hynod o araf. Neu mi allen ni wneud rhywbeth positif fel bod y sefydliadau etholedig yn edrych fel y bobl maen nhw'n cynrychioli. Mae hynny yn golygu cymysgedd dda o ddynion a merched."
Mae partion wrthi ar hyn o bryd yn dewis ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Deyrnas Unedig yn 2015 ac etholiadau'r Cynulliad yn 2016.
Y partion yn lleol sydd yn dewis y cynrychiolwyr ar gyfer etholiadau'r cyngor, y Cynulliad a'r senedd meddai Plaid Cymru. Ond maent yn dweud bod angen cydbwysedd rhyw ar gyfer y ddau brif safle ar y rhestr rhanbarth yn y Cynulliad.
Does gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddim polisi rhestr fer merched yn unig. Ond dydyn nhw ddim yn fodlon cael rhestr fer dynion yn unig yn etholiadau'r Cynulliad na San Steffan.
Does gan y Ceidwadwyr ddim unrhyw fesurau penodol yn eu lle er mwyn cynyddu nifer y merched sydd yn cael eu dewis,
Ers 1918 dim ond 13 o fenywod sydd wedi eu dewis i gynrychioli Cymru yn San Steffan.
Mae mwy o gydbwysedd wedi bod yn y Cynulliad gyda 58% o ddynion yn Aelodau Cynulliad ar hyn o bryd a 42% yn ferched.
Cecru yn y blaid
Yn y gynhadledd wanwyn mi blediodd Llafur Cymru i gynyddu'r nifer o fenywod sydd yn cael eu dewis ar gyfer seddi y gallan nhw ennill yn etholiadau'r cyngor.
Mae rhestr menywod yn unig wedi bod yn ddadleuol ac wedi achosi anghydfod yn y gorffennol o fewn y blaid Lafur. Yn yr etholiadau cyffredinol yn 2005 ym Mlaenau Gwent mi benderfynodd y cyn AC a'r AS Llafur Peter Law sefyll fel ymgeisydd annibynol ac mi drechodd yr ymgeisydd Llafur.
Defnyddiodd y blaid Lafur rhestr fer merched er mwyn dewis ymgeisydd ar gyfer Gwyr yn yr etholiad cyffredinol flwyddyn nesaf.
Mae Barwnes Gale yn gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd ar gyfer seddi Dwyrain Abertawe a Chwm Cynon. Mae'r ASau presennol yno yn ddwy fenyw sydd yn rhoi'r gorau iddi yn 2015.
Dywedodd y Farwnes Gale:"Dw i'n credu bydde na siom achos beth ni'n trio gwneud yw delio gyda'r broblem yma sydd gan yr holl bleidiau gwleidyddol sef amharodrwydd aelodau'r pleidiau i ddewis merched."