Cymru? Ble?
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwyddelod wedi llwyddo i werthu eu delwedd genedlaethol dros y byd, gyda'r byd yn ymwybodol o Iwerddon, Gŵyl San Padrig a thraddodiadau a cherddoriaeth y wlad.
Ond er ein bod ni fel Cymry wedi llwyddo i gadw ein hiaith a'n diwylliant, pa mor ymwybodol yw pobl dramor ohonon ni fel gwlad a chenedl?
Gofynnon ni i ambell i Gymraes oddi cartref rannu eu profiadau nhw, ac er eu bod nhw'n byw mewn gwahanol gorneli o'r byd, mae eu storïau yn frawychus o debyg.
Riyadh yn galw
Mae Catrin Barker, yn wreiddiol o Benllergaer, dolen allanol ond bellach yn gweithio yn Riyadh, Saudi Arabia.
"Er bod pob person Saudi rwyf wedi dod ar draws yn ymwybodol o'r Deyrnas Unedig fel gwlad, maen nhw fel arfer yn meddwl UK = England. Ambell waith rwy'n dod ar draws rhywun sydd wedi clywed am Gymru, ond maen nhw fel arfer yn credu mai rhan o Loegr yw hi. (Weithiau ma nhw'n dweud rhan o'r Deyrnas Unedig, ond yn bennaf yn dweud mai rhan o Loegr.) Dyma beth mae hyd yn oed pobl Saudi sydd wedi byw yn Lloegr yn meddwl!
"Ma Saudi'n wlad llawn contradictions a ma yna bach o un i ymwneud a'r pwnc yma. Er nad yw Saudis yn ymwybodol bod Cymru'n bodoli, unwaith chi'n dweutho nhw, smo nhw'n synnu. A smo nhw chwaith yn synnu bod gennym iaith ein hunan. Bod yn dwyiethog, trilingual neu fwy yw'r arfer man hyn. A mae'r syniad o fod yn rhan o genedl sydd ddim â gwladwriaeth eu hun yn eitha cyfarwydd hefyd. Mae'n rhywbeth mae pobl yn rhan yma'r byd yn gyfarwydd iawn ag e. Cofiwch dyw Saudi fel gwlad ddim yn 100 oed eto."
G'day
Felly beth yw'r stori yn Awstralia? Mae Ceris James yn wreiddiol o Gapel Newydd yn Sir Benfro a nawr yn gweithio i orsaf radio 1029 Hot Tomato, dolen allanol yn Queensland.
"Dw' i'n credu bod 80% o bobl yn Awstralia yn gwbod ble ma Cymru ... achos Rygbi dw i'n credu ... ond does gan llwyth ohonyn nhw ddim clem bo' iaith Gymraeg i'w chael! Ma' nhw'n meddwl ma' dialect sydd 'da ni. Tom Jones a Catherine Zeta yw eu prif cysylltiad â Chymru..."
Tebyg iawn yw profiadau Caryl Ann, sydd yn wreiddiol o Llansannan, dolen allanol, Dyffryn Clwyd ond sydd nawr yn gweithio fel is-gynhyrchydd teledu llawrydd yn Sydney.
"Pawb dwi'n gyfarfod, 'dw i bob amser yn d'eud mod i o Gymru. Os ydwi'n gweld dryswch, yna rhaid egluro - rhan o Brydain: Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn y blaen. Ond ma' llawer yma yn gwneud cysylltiad oherwydd poblogrwydd rygbi yma, a llawer iawn yn cyfeirio at Tom Jones, Shirley Bassey, Gavin and Stacey ac ... ahem, The Valleys, o dan yr un anadl.
"Y peth diddorol rili ydi'r ffaith nad oes neb yn gwybod am yr iaith Gymraeg - hyd yn oed expats sydd yn byw ac yn gweithio yn y diwydiant teledu yma o Lundain! Ma'n nhw'n synnu pan yn clywed fi a Guto fy nghariad yn siarad hefo'n gilydd. Cofiwch, dwi 'rioed wedi cael neb yn deud 'speak English' diolch byth, fel y dywedodd hen ddyn wrth ddwy ferch Portuguese ar y bws diwrnod o'r blaen!"
早上好Beks
Does bosib fod yna un rhan o'r byd lle mae'r mwyafrif yn ymwybodol o'n bodolaeth? Mae llawer ohonoch chi yn cofio Beks yn darlledu ar BBC Radio Cymru yn y nawdegau efallai. Mae Beks yn awr yn byw yn Hong Kong, dolen allanol.
"Ma fe'n gymysgedd o bopeth. Yn Hong Kong chi'n cwrdd a cyment o bobol o bobman. Yn amlwg ma'r ex-pats, pobol o Ewrop, yr Unol Daleithiau, Awstralia ac yn y blaen yn amlwg yn gwbod le ma Cymru ond dyw rheini o Asia ddim yn siŵr o gwbwl. Ma' nhw'n meddwl fod ni'n rhan o Loegr neu falle yn gwybod fod ni'n rhan o'r UK a rhai jist yn ymwybodol fod ni'n rhan o Ewrop???
"O ran ein delwedd - mae pobl yn cymysgu ni 'da'r Alban, Lloegr, Iwerddon. Ond mae dyddiau cysylltu Cymru 'da Tom Jones drosodd. Mae pobol Thai neu Chinese yn gwbod bo Gareth Bale yn Gymro achos bod nhw'n footie fans! Er hynny, nifer fawr ddim yn gwybod bod iaith ein hunain da ni. Mae'r cwestiwn o'n lle yn y byd yn anodd achos bo ti'n cwrdda rhywun o rhywle gwahanol yn y byd bob dydd yn Hong Kong."
A dyna ni. Dyw hwn ddim yn arbrawf gwyddonol iawn ond y teimlad sydd yn dod i'r amlwg ar ei ddiwedd yw ein bod ni ar goll yn y byd mawr fel cenedl. Unrhywun yn ffansio agor cadwyn o dafarndai Cymreig dros y byd?
Iechyd da!