Cymru 24-23 Japan a Chymru'n sicrhau eu bod yn y 12fed safle uchaf yn byd

Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi curo Japan o bwynt gyda chig gosb yn y funud olaf sy'n sicrhau y byddan nhw o fewn y 12 safle uchaf yn netholion y byd cyn i grwpiau Cwpan y Byd gael eu dewis ar 3 Rhagfyr.

Yr eilydd Jarrod Evans gamodd i fyny i gymryd y gic yn ystod amser ychwanegol er mwyn sicrhau'r fuddugoliaeth a churo Japan o 24 i 23.

Roedd hi'n gêm llawn cardiau melyn a doedd dim lot i wahanu'r ddau dîm ar y noson ond Cymru lwyddodd i fynd â hi gyda diweddglo dramatig iawn.

Gyda gemau yn erbyn Seland Newydd a De Affrica i ddilyn fe allai'r canlyniad yma brofi'n hollbwysig pan ddaw Cwpan y Byd yn 2027.

Mi fydd timau rhwng y seithfed a'r 12fed safle yn y byd yn chwarae dim mwy na un o'r chwech tîm gorau - felly gall y canlyniad ddydd Sadwrn olygu bod carfan Steve Tandy wedi llwyddo osgoi grŵp anoddach fyth.

Gêm agored iawn

Fe ddechreuodd y gêm yn agored iawn a dyna oedd hanes noson gyda'r ddau dîm yn mynd 100mya gan geisio cadw'r bêl yn fyw.

Dechreuodd Cymru'n dda gyda Dan Edwards yn ffugio a churo'i ddyn er mwyn croesi'r linell ar ôl pum munudd. Trosodd ei gais ei hun ac roedd Cymru ar y blaen o 7 i 0.

Fe ddaeth Japan yn syth yn ôl - eto, hanes y noson gyda'r ddwy ochr yn ergydio yn ôl ac ymlaen hyd at y funud olaf.

Ar ôl cyfnod o bwysau fe enillodd Japan y bêl yn yr awyr a arweiniodd at fylchau yn amddiffyn Cymru. Ar ôl lledu'r bêl fe sgoriodd Ishida yn y gornel.

7-7 ar ôl chwarter awr.

Roedd y gêm mor agored a'r ddau dîm yn gwneud sawl camgymeriad.

Japan oedd yn rheoli'r chwarae gan achosi nifer o broblemau i Gymru fel wnaethon nhw yn erbyn Iwerddon wythnos diwethaf.

Fe ddaeth y carden melyn cyntaf ar ôl 24 munud i Japan - wedi i Aelx Mann gael ei daclo oddi ar y bêl.

Er bod Japan lawr i 14 dyn, ar ôl hanner awr doedd dim byd yn gwahaniaethu'r ddau dîm.

Fe ddaeth yr ail gerdyn melyn i Japan am dacl anghyfreithlon gydag hanner amser yn agosáu.

Dangosodd Louis Rees-Zammit ei ddoniau a'i gyflymder tua diwedd yr hanner cyntaf wrth iddo dorri'r linell amddiffyn a dod o hyd i wagle. Cafodd ei daclo'n gadarn a chollodd afael ar y bêl.

Gyda'r cloc yn taro'r deugain fe ddaeth y trydydd cerdyn melyn - tro yma i Josh Adams o Gymru. Aeth i mewn i ochr ryc gan daro chwaraewr Japan yn ei ben.

Ail Hanner

Ar ddechrau'r ail hanner daeth y cadarnhad bod cerdyn melyn Adams yn cael ei uwchraddio i goch.

Felly, roedd Cymru lawr i 14 am weddill y gêm.

Dechreuodd Japan yn gryf gan ailgylchu'r bêl yn gyflym a'i chadw yn y dwylo - roedd y tempo'n parhau'n gyflym.

Fe gafodd Amddiffyn Cymru ei brofi ac ar ôl 46 o funudau enillodd Japan gic gosb gan fynd ar y blaen am y tro cyntaf. Cymru 7-10 Japan.

Llwyddodd Cymru i gael eu dwylo yn ôl ar y bêl ac yn dilyn cyfnod da fe sgoriodd Zammit blymiodd yn y gornel a Dan Edwards yn trosi'r cais.

Cafodd Japan gyfnod o reoli'r chwarae eto ac yn dilyn cig cosb a chais gan eu hwythwr, Makisi, roedden nhw'n edrych yn gryf.

Nick Tompkins oedd y nesaf i groesi i Gymru gan gario'n nerthol dros y linell ond Japan ergydiodd yn syth wedi hynny i'w rhoi unwaith eto yn ôl ar y blaen.

Cymru 21-23 Japan gyda 10 munud yn weddill.

Roedd hi'n 10 munud cyffrous iawn ond yn dilyn tacl uchel ar Alex Mann fe ddaeth pedwerydd cerdyn y gêm i Harry Hockings o Japan.

Penderfynodd eilydd Cymru, Jarrod Evans, ei fod yn rhy bell mynd at y pyst felly at y gornel amdani.

Gyda sgarmes gryf fe ddaeth y gic gosb.

Jarrod Evans o Bontypridd gamodd i fyny ym munud ola'r gêm a sicrhau buddugoliaeth i Gymru ac i dîm Steve Tandy.

Gyda'r canlyniad yma'n sicrhau eu safle yn12 uchaf y byd, fe allai'n brofi'n bwysig o ystyried bod grwpiau Cwpan y Byd yn cael eu dewis ar 3 Rhagfyr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.