Côr 'aMaSing' o'r gogledd i aelodau gydag MS

  • Cyhoeddwyd
aMaSingFfynhonnell y llun, aMaSing
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r côr wedi datblygu llawer ers ei sefydlu ym Mawrth 2013

Bydd côr arbennig o ogledd Cymru sydd wedi ei ffurfio gan aelodau sydd gyda'r cyflwr sglerosis ymledol (MS) yn canu mewn arddangosfa fawr wedi ei threfnu gan y Gymdeithas MS ddydd Sadwrn.

Cafodd y côr - côr 'aMaSing' - ei sefydlu gan aelodau o gangen Gwynedd a Môn o'r Gymdeithas MS ym mis Mawrth 2013.

Bydd y côr yn mynychu digwyddiad MS Life ym Manceinion ddydd Sadwrn ac mae'r digwyddiad, sydd yn cynnwys trafodaethau gwyddonol am ymchwil i MS, y mwyaf o'i fath yn Ewrop.

Mae disgwyl y bydd 3,000 o bobl yn mynychu MS Life, ac fe fydd côr 'aMaSing' yn canu wrth i bobl gyrraedd y digwyddiad ac yn ystod yr awr ginio.

Diagnosis

Un o aelodau'r côr ydi Sioned Williams, 40, o Ynys Môn. Fe gafodd ddiagnosis o MS yn 32 oed ac mae'r cyflwr yn effeithio ar ei chydbwysedd ac yn creu blinder difrifol o bryd i'w gilydd.

Fe ddywedodd fod y côr wedi gwneud newid mawr i'w bywyd: ''Pan wnaethon ni greu y côr yma roedd yn dod a rhywbeth i bob wythnos. Fedrai ddim gweithio o achos MS ac felly mae hyn yn dod a ffocws i mi bob wythnos. Rydym yn cyfarfod ffrindiau, siarad, ymlacio gyda phobl sydd yn deall yr hyn yr ydych yn mynd drwyddo ac mae'n golygu nad ydi rhywun wedi ei ynysu.

''Pan da chi'n canu mi rydych ar ben y byd, ac yn anghofio am bopeth. Nid dim ond y canu sydd yn bwysig, ond mae'n gyfle i fynd i gyfarfod eraill a pheidio a theimlo fel eich bod ar ben eich hun.''

Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at berfformio yn nigwyddiad MS Life: ''Dwi'n nerfus iawn ond yn edrych ymlaen yn arw iddo fo hefyd. Fe fydd pawb yno yn yr un cwch ac felly fe fydd hyn yn wych. Rydym yn mynd i rywle i ddangos i bobl be all pobl gydag MS ei wneud.

Codi ymwybyddiaeth

''Dim ond am eich bod mewn cadair olwyn neu'n defnyddio ffyn neu ddim yn gwybod beth fyddwch chi'n deimlo yfory fe allwch chi dal wneud beth da chi am wneud. Bydd hyn yn dod a chymaint o ymwybyddiaeth.''

Aelod arall o'r côr ydi Eirlys Ryder, 58, o Langefni. Mae hi hefyd o'r farn fod bod yn aelod o'r côr wedi cael effaith bositif arni: ''Mae'n gymorth aruthrol. Mae modd i chi drafod symptom neu boen neu'r hyn yr ydych yn ei deimlo ar y diwrnod heb deimlo eich bod yn cwyno neu bod yn negyddol.'

''Pan da chi'n canu dydych chi ddim yn meddwl am yr MS. Rydych chi'n anghofio'r boen, anghofio'r dolur. Rydych chi'n canolbwyntio ar fwynhau'r gerddoriaeth a'r canu.'

''Mae hwn yn gyfle gwych. Mae'n teimlo fel bod y côr yn tyfu yn fwy ac yn fwy ac fe fydd mor braf gallu dangos i bobl eraill gyda MS fod modd cael pleser allan o bethau - fod na bethau positif i'w cael.''

Mae'r côr yn chwilio am aelodau newydd ar hyn o bryd, ac am gymorth gan fusnesau gyda nawdd er mwyn i aelodau deithio i gyngherddau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol