Tro pedol ar gynllun i gau cyffordd 41 ar yr M4

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, Kevin Corcoran
Disgrifiad o’r llun,

Bydd lonydd gorllewinol cyffordd 41 yn cau ar yr adegau prysuraf o dan y cynllun newydd

Ni fydd cynllun dadleuol i gau cyffordd ar yr M4 ger Port Talbot yn mynd yn ei flaen.

Roedd bwriad i gau Cyffordd 41 am chwe mis i fod i ddechrau yn yr haf i geisio lleihau tagfeydd yn yr ardal.

Ond roedd pryder gan fasnachwyr y byddai'r cynllun yn cael effaith negyddol ar fusnesau.

Yn dilyn trafodaethau gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot mai ond y lonydd gorllewinol fyddai'n cau, a hynny ar yr adegau prysuraf.

Gwrthwynebiad

Wrth gyhoeddi'r cynllun yn wreiddiol, dywedodd Ms Hart y byddai'r cynllun yn cynyddu capasiti'r M4 o 11% i'r gorllewin a 2% i'r dwyrain.

Dywedodd hefyd y byddai manteision economaidd oherwydd bod llai o ddamweiniau a thagfeydd.

Ond roedd masnachwyr lleol yn poeni na fyddai pobl yn ymweld â'r dref os byddai'r gyffordd yn cau.

Dywedodd llywydd Siambr Fasnach Port Talbot, Steve Garvey, y byddai cau'r gyffordd yn golygu "na fyddai rheswm i ddod i Bort Talbot bellach".

Bydd arian ychwanegol ar gael i gwblhau Pont Baglan, ac i wella'r ffordd rhwng Brunel Way a Llansawel.

Dywedodd y cyngor y byddai hynny yn rhoi mwy o opsiynau i draffig lleol ac yn hybu'r economi.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd A Thomas, bod hwn yn gam ymlaen.

"Rydw i'n hyderus y bydd y cynllun yma yn pryderu bod opsiynau gwell na chau'r gyffordd llawn amser, a pan fydd y gwaith i wella ffyrdd lleol wedi ei gwblhau ym mis Mawrth 2015 mae'r gweinidog wedi cytuno i adolygu effaith y cau rhan amser cyn gwneud penderfyniad ar gau llawn amser."